Esgidiau a Mewnwadnau i Blant
Ein traed sy’n ein helpu i symud a chadw’n iach ac egnïol, felly mae’n bwysig gofalu amdanyn nhw.
Wrth brynu esgidiau plant, gofalwch bod:
- Lle i fysedd traed symud ym mlaen yr esgid
- Gofod dwfn, llydan a digon hir ar gyfer bysedd y traed
- Sawdl cadarn
- Gafael da
- Gwadn clustogaidd
- Lasys, felcro neu ffasnin bwcl
- Mesurwch bob tro wrth brynu esgidiau newydd
- Gwisgwch yr esgidiau gydag hosanau o’r maint cywir

Mewnwadnau (orthoses)
Mewnwadnau yw’r enw cyffredin am orthoses. Bydd mewnwadnau arbennig a gewch gan y podiatrydd yn helpu i gynnal y traed a lleihau poen. Gallwch eu gwisgo mewn gwahanol esgidiau ond gwnewch yn siŵr bod yr esgid yn ddigon dwfn i’r mewnwadn.
Bydd eich corff angen dod i arfer â’r mewnwadnau. Gwisgwch nhw bob hyn a hyn i ddechrau, 1 awr y dydd ac yna awr arall y dydd am wythnos. Unwaith y bydd y mewnwadnau’n gyfforddus, ceisiwch eu gwisgo drwy’r dydd. Ddylai’r mewnwadnau ddim achosi rhwbio na phoen.
Siopau Esgidiau
Mae’r siopau esgidiau hyn yng Nghaerdydd a’r Fro yn gwerthu brandiau esgidiau sy’n gallu derbyn orthoses ac esgidiau llydan, a chynnig gwasanaeth mesur:
Sports Direct
Canolfan Dewi Sant
Caerdydd
CF10 2DP
Parc Manwerthu
Ffordd y Fferi
Grangetown
CF11 0JR
Ogamigam
5 Adeilad Brenhinol,
Ffordd Victoria,
Penarth
CF64 3EB
029 2070 4254
AG Meek
Canolfan Dewi Sant
Caerdydd
CF10 2DP
93 Heol Albany
Caerdydd
CF24 3LP
Shoe 22
22b Bryn yr Orsaf
Ffordd Newydd
Porthcawl
01656 788628
John Lewis
Canolfan Dewi Sant
Yr Ais
Caerdydd
CF10 1EG
Deichmann
84 Stryd y Bont
Canolfan Dewi Sant
Caerdydd
CF10 2EL

Hefyd yn yr adran hon
Gwybodaeth Gyswllt
Canolfan Rheoli Cleifion Podiatreg
Gwasanaethau Podiatreg
Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Ffordd Casnewydd
Caerdydd
CF24 0SZ
Ymholiadau cyffredinol a threfnu apwyntiadau i gleifion presennol: 029 2033 5135
Atgyfeirio cleifion newydd: 029 2033 5370