Traed Chwyslyd
Ystyr Hyperhidrosis yw chwysu llawer. Mae’r traed yn cael eu heffeithio fel arfer am eu bod mewn esgidiau caeedig. Mae arogl annymunol yn gallu digwydd hefyd wrth i facteria ar y croen dorri’r chwys i lawr.
Mae ymarfer corff, gwres, straen, bwyd sbeislyd, caffein, pryder neu emosiynau cryf yn gallu sbarduno chwysu.
Dydyn ni ddim yn gwybod beth sy’n achosi hyperhidrosis ond mae gan lawer o bobl berthnasau â’r un cyflwr sy’n awgrymu cyswllt genetig.
Mae hyperhidrosis yn gallu bod yn sgileffaith i foddion hefyd, fel moddion gwrth-iselder neu bropranolol.
- Golchwch eich traed bob dydd a sychwch rhwng y bysedd traed yn dda iawn.
- Newidiwch eich hosanau bob dydd. Ceisiwch wisgo sanau wedi’u gwneud o gotwm neu fambŵ yn hytrach na neilon neu bolyester.
- Golchwch hosanau gyda dŵr poeth i gael gwared ar facteria.
- Peidiwch â gwisgo’r un pâr o esgidiau ddeuddydd ar ôl ei gilydd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n sychu’n iawn.
- Gwisgwch sandalau agored er mwyn i aer gyrraedd eich traed.
- Defnyddiwch bowdr traed sy’n amsugno lleithder. Mae’r rhain ar gael o fferyllfeydd.
- Ewch i’r afael â’ch sbardun posibl – straen a phryder, neu fwyd a diod.

Hefyd yn yr adran hon
Os oes gan eich plentyn broblem nad yw’n gwella fel y byddech chi’n disgwyl gyda hunanofal, dylech gysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gallai hyn fod yn feddyg teulu, fferyllydd, Gwasanaeth Podiatreg y GIG neu Bodiatrydd Preifat.
Gwnewch yn siwr fod eich podiatrydd wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei (h)enw.