Cerdded ar Flaenau’r Traed
Beth yw Cerdded ar Flaenau’r Traed Idiopathig?
Cerdded ar Flaenau’r Traed Idiopathig yw pan fydd plentyn yn parhau i gerdded ar flaenau’i draed. Mae 25% o blant yn dueddol o gerdded fel hyn.
Beth sy’n achosi Cerdded ar Flaenau’r Traed Idiopathig?
Mae amryw o achosion gan gynnwys:
- Arfer – mae llawer o blant yn mynd i’r arfer o gerdded fel hyn
- Tendon Achiles wedi’i fyrhau – dyma’r tendon yng nghefn y sawdl
- Cyhyrau craidd gwan – gall hyn achosi newidiadau yn ystum y corff sy’n ei gwneud hi’n hawdd cerdded ar flaenau’r traed
- Niwrolegol – mae cyflyrau fel Parlys yr Ymennydd yn gallu achosi i blentyn gerdded ar flaenau’i draed.
Triniaeth
Annog
Os yw cerdded ar flaenau’r traed wedi dod yn arferiad, anogwch ac atgoffwch eich plentyn i gerdded o’r sawdl i’r bysedd traed.
Ymarferion
Mae gwella hyblygrwydd drwy ymestyn cyhyrau croth y groes yn gallu helpu. Cliciwch yma am ymarferion.
Os nad yw’r symptomau’n gwella, mae’n bosibl trefnu i weld arbenigwr podiatreg.

Hefyd yn yr adran hon
Menu