Dafaden ar y droed yw ferwca, yn cael ei achosi gan y Firws Papiloma Dynol ac sy’n gallu cael ei ddal a’i ledaenu’n hawdd iawn. Mae ferwcas fel arfer ar sodlau a bysedd y traed.
Maen nhw’n tueddu i fod yn gyffredin ymhlith plant, pobl ifanc a phobl sy’n defnyddio ystafelloedd newid cymunedol.
Does dim un driniaeth sy’n gallu gwarantu cael gwared ar ferwca. Mae’r rhan fwyaf o ferwcas yn diflannu o fewn 2 flynedd, heb eu trin hyd yn oed. Maen nhw’n tueddu i gymryd mwy o amser i ddiflannu os ydych chi’n hŷn.
Mae’r rhan fwyaf o driniaethau sydd ar gael mewn archfarchnadoedd neu fferyllfeydd yn ddrwg i’r croen. PEIDIWCH Â DEFNYDDIO’R TRINIAETHAU HYN OS OES GENNYCH CHI DDIABETES NEU GYLCHREDIAD GWAEL.
Mae bob amser yn well siarad â’ch fferyllydd os nad ydych chi’n siŵr pa driniaeth sy’n addas i chi.
Mae’n syniad da gorchuddio’r ferwca i’w atal rhag lledaenu, yn enwedig mewn lleoedd newid cymunedol.
Os yw’r ferwca’n mynd yn dew ac yn boenus, gallwch chi dynnu rhywfaint o’r croen caled ar yr wyneb gyda ffeil ewinedd. Cadwch y ffeil ewinedd i’w defnyddio ar y darn heintiedig i atal y firws rhag lledaenu.
Os oes gan eich plentyn broblem nad yw’n gwella fel y byddech chi’n disgwyl gyda hunanofal, dylech gysylltu â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gael cyngor. Gallai hyn fod yn feddyg teulu, fferyllydd, Gwasanaeth Podiatreg y GIG neu Bodiatrydd Preifat.
Gwnewch yn siwr fod eich podiatrydd wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal ac edrychwch am y llythrennau HCPC ar ôl ei (h)enw.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.