‘Kidney Beam’ ar gyfer Pobl sy’n Byw gyda Chlefyd yr Arennau
Beth yw ‘Kidney Beam’?
Mae ‘Kidney Beam’ yn wasanaeth ar-lein a gafodd ei ddatblygu gan glinigwyr, arbenigwyr ymarfer corff, sefydliadau iechyd ac elusennau, i helpu cleifion arennau i ofalu am eu hiechyd corfforol a meddyliol.
Mae aelodau’n gallu cael mynediad i amrywiaeth o ddosbarthiadau ar alw a byw. Mae’r pynciau’n cynnwys hyfforddiant cryfder, ymestyn ysgafn, pilates, ymwybyddiaeth ofalgar, gwneud y mwyaf o gwsg a mwy. Mae pob dosbarth yn cael ei arwain gan arbenigwyr sydd wedi’u hyfforddi ym maes clefyd yr arennau neu sy’n byw gyda chlefyd yr arennau eu hunain.
Gallwch chi gofrestru am ddim.
Ar gyfer pwy mae ‘Kidney Beam’?
Mae ‘Kidney Beam’ wedi’i anelu at unrhyw un dros 16 oed, o bob gallu, gydag unrhyw gyflwr ar yr arennau, ac ar unrhyw gam o glefyd yr arennau.
Mae gan bob dosbarth sgôr ffitrwydd fel y gallwch chi ddewis yr un iawn i chi. Ar ddechrau a diwedd y dosbarthiadau byw gallwch sgwrsio â’r cyfranogwyr eraill a’r hyfforddwyr, sy’n gyfle da i fagu cyfeillgarwch newydd a chadw brwdfrydedd.