Traceostomi a gofal critigol
Beth yw traceostomi?
Tiwb bychan sy’n cael ei osod i mewn yn y gwddf yw tiwb tracheostomi. Mae’n cael ei roi y tu mewn i’r bibell wynt ac felly yn fynediad mwy uniongyrchol i’r ysgyfaint.


Dyma rai o’r staff a allai fod yn rhan o’r broses pan fyddwch chi’n cael traceostomi:
- Meddygon
- Therapydd Iaith a Lleferydd (SLT)
- Ffisiotherapydd (PT)
- Allgymorth Gofal Critigol
- Nyrsys
Pam a phryd y mae angen tiwb traceostomi?
Mae tiwb traceostomi yn cael ei osod er mwyn:
- Eich helpu i anadlu drwy lwybr uniongyrchol i’r ysgyfaint
- Gallu sugno drwyddo er mwyn cael gwared â secretiadau (fflem) o’r ysgyfaint
- Atal poer rhag mynd i’r llwybr anadlu
Pam mae angen sugno?
Mae sugno yn helpu i glirio secretiadau o’r ysgyfaint ac osgoi heintiau’r frest. Efallai eich bod chi’n rhy wan i beswch eich secretiadau.
Mae sugno yn gallu bod yn anghyfforddus ond mae angen eich helpu i anadlu a chadw’ch brest yn glir.

Pam na alla i siarad?
Pan fydd y cyff traceostomi yn chwyddo, fyddwch chi ddim yn gallu siarad am nad yw aer yn gallu mynd drwy’r tannau lleisiol. Byddwch chi’n gallu gwneud siâp geiriau gyda’ch ceg ond fyddwch chi ddim yn gallu gwneud sŵn. Efallai y bydd ysgrifennu pethau neu ddefnyddio llun neu fwrdd wyddor er mwyn cyfathrebu yn help.

Pan fyddwch chi’n gallu anadlu’n well a phan fyddwch chi’n barod, bydd y cyff yn cael ei ddatchwythu a bydd Therapydd Lleferydd ac Iaith yn asesu eich llais gyda falf siarad. Gyda’r falf yn ei le, bydd aer yn cael ei ailgyfeirio drwy eich laryncs ar allanadlu sy’n eich galluogi i siarad.
Beth am fwyta ac yfed?
Mae llyncu yn gallu bod yn anodd gyda thraceostomi. Bydd y Therapydd Lleferydd ac Iaith yn asesu’ch llyncu pan fydd y staff yn meddwl eich bod chi’n barod i ddechrau bwyta ac yfed efallai.
Yn dilyn hyn bydd y Therapydd Lleferydd ac Iaith yn argymell pethau diogel i chi fwyta ac yfed. Efallai y byddwch chi’n cael ‘Dim drwy’r geg’ os nad yw’n ddiogel i chi lyncu, h.y. mae bwyd a/neu ddiod yn ‘mynd i lawr y ffordd anghywir’ neu efallai y byddwch chi’n cael ychydig bach iawn o fwyd.
Bydd y Therapydd Lleferydd ac Iaith yn rhoi cyngor i chi a’ch teulu / gofalwyr ac yn cynghori / cysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill.
Beth yw’r broses ar gyfer tynnu traceotomi?
Every patient is different and weaning from a tracheostomy will vary patient to patient. Decisions are made by the specialist tracheostomy team including Physiotherapist, Speech and Language therapist, Nurses and Doctors.
Pryd fydd y traceostomi yn gallu cael ei dynnu?
Bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys:
- Gallu peswch secretiadau i’r geg (dim angen sugno)
- Gallu anadlu’n annibynnol
- Y rheswm dros fewnosod y tiwb
