Cyd-gynhyrchwyd y dudalen hon ar gyfer dynion gan ddynion a menywod.
Nid yw’r menopos yn effeithio ar fenywod yn unig; mae’n rhywbeth sy’n effeithio ar bawb. Mae menywod yn ffurfio 51% o’r boblogaeth, a bydd pob menyw yn profi’r menopos. Nhw fydd eich partneriaid, aelodau o’ch teulu, cydweithwyr a ffrindiau.
Dysgu mwy am y menopos yw’r ffordd orau o gefnogi’r holl fenywod yn eich bywyd ac yn y pen draw bydd yn eich helpu chi hefyd.
Fe wnaethon ni arolygu grŵp o ddynion a gofyn iddyn nhw rannu eu profiadau. Dywedon nhw wrthym eu bod nhw wedi sylwi ar y newidiadau canlynol yn y menywod yn eu bywydau:
Mae pob menyw yn wahanol a bydd ganddi brofiad gwahanol o’r menopos. Os yw’r menopos yn effeithio’n fawr ar fenyw yn eich bywyd, mae’n rhesymol y bydd yn effeithio arnoch chi hefyd. Efallai y byddwch chi’n teimlo wedi’ch gwrthod, wedi drysu a’ch brifo ac na allwch wneud unrhyw beth i helpu. Ar adegau, gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud, ond mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud i helpu.
Rydyn ni, ddynion, yn hoffi cynnig atebion i ddatrys problemau, ond cofiwch fod menywod, yn aml iawn, ond eisiau teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u deall.
Pan fydd angen i fenyw fynegi ei theimladau, byddwch yn glust i wrando a chydnabyddwch ei theimladau. Ceisiwch beidio â thorri ar draws, mae’n bwysig ei bod hi’n teimlo ei bod hi’n cael ei chlywed.
Efallai y bydd eich partner yn cael trafferth gwneud y pethau y mae hi wastad wedi’u gwneud, ond yn sydyn mae’n ymddangos nad yw hi’n gallu eu gwneud yn hawdd iawn mwyach. Gofynnwch a oes unrhyw beth y gallwch chi ei wneud i helpu.
Efallai y bydd rhai pethau y mae angen i fenyw eu gwneud i reoli ei symptomau. Er enghraifft, efallai y bydd hi’n agor ffenestr yng nghanol y gaeaf oherwydd ei bod hi’n cael pwl o wres. Efallai na fydd hi’n gallu rheoli ei thymheredd mewnol oherwydd diffyg estrogen. Yn ystod pwl o wres, mae menywod yn dweud eu bod yn teimlo wedi’u gorlethu,nid yn unig gan wres mewnol na allant ddianc ohono, ond yn emosiynol hefyd.
Siaradwch â ffrindiau/cydweithwyr gwrywaidd eraill am y menopos. Mae’n syndod faint y gallwn ni i gyd ei ddysgu trwy rannu. Adnodd defnyddiol yw:
Mae dysgu mwy am y menopos yn ffordd ddefnyddiol o gynyddu eich dealltwriaeth ac i gefnogi’r menywod yn eich bywyd.
Am ragor o wybodaeth dilynwch y dolenni isod:
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.