Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Ar gyfer rhieni plant ifanc ag anabledd dysgu sy’n dod i’r amlwg

Mae Dulliau Cadarnhaol Cynnar ar gyfer Cynorthwyo (E-PAtS)

Mae Dulliau Cadarnhaol Cynnar ar gyfer Cynorthwyo (E-PAtS) yn rhaglen 8 wythnos a gafodd ei chynllunio i rymuso rhieni plant 0-5 oed ag anabledd dysgu sy’n dod i’r amlwg.

Dros gyfnod o 8 wythnos, mae’r rhaglen yn datblygu eich dealltwriaeth o feysydd allweddol sy’n ceisio eich cynorthwyo gyda datblygiad eich plentyn.

Y camau allweddol hyn yw:

Mum with young child
Cefnogaeth gyda chwsg
Cyfathrebu (gan sylwi ar y ffyrdd y mae plant dieiriau yn cyfathrebu)
Deall ymddygiad heriol
Cefnogaeth ynghylch cyrchu gwasanaethau
Lles emosiynol a gwytnwch ar gyfer gofalwyr.

Cafodd y rhaglen ei chyd-gynhyrchu gan rieni sy’n ofalwyr profiadol i blant ag anableddau dysgu a’r seicolegydd clinigol Dr Nick Gore. Mae’n seiliedig ar egwyddorion Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a’r ‘pethau y mae rhieni sy’n ofalwyr yn dymuno y byddent wedi gwybod mwy amdanynt pan oedd eu plant yn iau’. Y tudalennau ychwanegol hynny yn y llawlyfr magu plant!

Y nod yw creu ymdeimlad o gymuned a chysylltiad i rieni sy’n ofalwyr a lleihau’r ymdeimladau o unigedd a bai a chywilydd.

Mae hefyd yn ceisio lleihau’r risg o ymddygiad heriol cyn cyrraedd argyfwng a chyfyngu’r effaith y mae’r ymddygiadau hyn yn ei chael ar blant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol. Trwy roi’r sgiliau i rieni er mwyn iddynt allu diwallu anghenion y plant hyn yn gynnar.

Beth mae ein rhieni yn ei ddweud

EPAtS

Cerdd a gafodd ei hysgrifennu gan Judy, riant ofalwr a fynychodd EPAtS ac sydd bellach yn hwylusydd:

Judy

Rhywle draw dros yr enfys 🌈 fri i’r nef
Mae fy myd yn gwneud synnwyr,
Mae eraill yn fy neall ‘fyd.
Rhywle draw dros yr enfys 🌈 mae bywyd yn braf
Mae dyddiau’n llawn pethau hapus fel roeddwn yn gobeithio y gallan nhw fod.
Rhyw ddydd dymunais o dan y sêr,
Am ychydig o gefnogaeth a dyma fe.
Lle bydd eraill yn gwrando a deall.
Nid yw mor anodd pan fydd pobl yn ceisio.
Lle mae materion yn pylu fel eira yn toddi
A chyngor cadarn ar ble i fynd, ble i ddod o hyd iddo?
Rhywle draw dros yr enfys 🌈 i fyny fri,
Mae ‘na grŵp EPATs sy’n ein huno ni.

Dyma rai o’r hwyluswyr proffesiynol sy’n rhedeg ein grŵp E-PAtS:

Dr Emma Johnston,
Seicolegydd Clinigol

Dr Alice Horton,
Seicolegydd Cwnsela

Claire George

Claire George,
Therapydd Seicolegydd a Chynghorydd Gwybodus Cefnogaeth Ymddygiadol Gadarnhaol

Hayley Williams

Hayley Williams,
Cynghorydd Datblygu Plant

Sarah

Sarah

Cassie

Cassie

Rebecca

Rebecca

Judy

Judy

Mae ein Hwyluswyr Rhieni sy’n Ofalwyr sy’n hwyluso EPAtS, yn cynnwys:

Ar hyn o bryd rydym yn rhedeg grwpiau EPAtS mewn gwahanol leoliadau o amgylch Caerdydd, y Fro ac ar-lein. Maen nhw fel arfer yn digwydd yn ystod y tymor, gyda rhai cyfleusterau yn cynnig gofal plant, felly does dim rhaid i chi boeni am drefnu gofal plant.

I gael mynediad at EPAtS, gellir hunangyfeirio drwy’r Porth (Caerdydd) ar 08000 327 322 neu Linell Gyngor Teuluoedd yn Gyntaf (y Fro) ar 03000 133 133. Gall atgyfeiriadau gael eu gwneud drwy eich ymwelydd iechyd neu gallwch chi drefnu atgyfeiriad eich hun.

Pwy sy’n cyflwyno’r sesiynau?

Mae’r rhaglen yn cael ei darparu gan hwylusydd gofalwr proffesiynol a rhiant sydd wedi cael eu hyfforddi yn y rhaglen ac mae ganddynt brofiad o gefnogi plant ag anableddau dysgu a’u teuluoedd. Yn y modd hwn, bydd cyd-gynhyrchu yn cynnig rhywfaint o gymorth ymarferol, realistig a sensitif i chi mewn amgylchedd nad yw’n barnu.

Bore Coffi Llygad

cup of coffee

Unwaith y mis, mae croeso i deuluoedd yr ydym yn gweithio gyda nhw ymuno â’n boreau coffi. Drwy ddod â theuluoedd sy’n cael profiadau tebyg ynghyd, ein nod yw creu rhwydwaith cymorth lle mae rhieni sy’n ofalwyr yn cael eu gwerthfawrogi, mae pobl yn gwrando arnynt ac yn datblygu eu pentref. Mae’r boreau coffi yn rhad ac am ddim i’w mynychu, ac nid oes angen i chi archebu, dim ond troi i fyny! Mae croeso i blant hefyd!

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: llygad.eye.cav@wales.nhs.uk

Cynghori unigol a Chyplau

Pan fydd rhieni’n bwriadu cael plentyn, yn gyffredinol nid ydyn nhw’n disgwyl iddyn nhw gael anghenion datblygu ychwanegol. Felly, pan fyddan nhw’n dechrau sylweddoli bod gan eu plentyn anghenion datblygiadol ychwanegol, neu os yw eu plentyn yn cael diagnosis (boed hynny yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth neu rywbryd wedyn) gall hyn sbarduno llawer o emosiynau gwahanol.

Mae rhieni yn adrodd teimladau o sioc, gwadu, galar, pryder, euogrwydd, dicter, straen, blinder a llawer mwy. Mae’r rhain yn ymatebion arferol i sefyllfa annisgwyl. Gall rhieni hefyd weld rhai sefyllfaoedd brawychus iawn megis yn ystod yr enedigaeth, ymchwiliadau meddygol neu driniaethau a allai eu gwneud yn teimlo’n drawmatig. Felly, rydym yn cynnig cwnsela i rieni/gofalwyr er mwyn rhoi lle diogel iddyn nhw archwilio a gwneud synnwyr o’r teimladau anodd hyn heb ofni beirniadaeth.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag: eyp.parentcounselling@wales.nhs.uk

Adborth gan rieni sydd wedi derbyn cyngor:

Grwpiau Tadau

Rydym yn bwriadu cychwyn grŵp ar gyfer tadau sydd â phlant ag anableddau dysgu. Bydd y grŵp yn dechrau tua diwedd y flwyddyn. Os ydych chi’n dad ac mae gennych ddiddordeb mewn mynychu, defnyddiwch y ddolen isod i lenwi ffurflen yn mynegi eich diddordeb a byddwn mewn cysylltiad â chi: 

Grwpiau Brodyr a Chwiorydd

Rhaglen 6 sesiwn i gefnogi plant 7-11 oed sydd â brawd neu chwaer gydag Oedi Datblygiadol Byd-eang / Anabledd Dysgu sy’n Dod i’r Amlwg. Mae Sibs yn elusen yn y DU ar gyfer plant ac oedolion sydd â brawd neu chwaer ag anabledd.

Mae Sibs wedi datblygu rhaglen F.R.A.M.E i ddisgrifio’r nodau a’r canlyniadau ar gyfer y grŵp:

  • F – Hwyl
  • R – Lleddfu unigedd
  • A – Cydnabod teimladau
  • M – Strategaethau Ymdopi 
  • E – Gwella gwybodaeth

Os oes gennych blentyn rhwng 7 ac 11 oed a allai fod â diddordeb, e-bostiwch: hannah.newton@wales.nhs.uk neu llygad.eye.cav@nhs.wales.uk

Mwy o gefnogaeth

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content