Mae’r tîm Therapi Galwedigaethol yn gweithio gyda phobl sydd wedi cael salwch acíwt ac sydd angen arhosiad yn yr ysbyty. Gall fod gan bobl ystod amrywiol o anghenion iechyd a lles yn ogystal â’u salwch acíwt presennol, a allai fod wedi bod yn effeithio ar eu galwedigaethau dyddiol cyn cael eu derbyn.
Nod y tîm Therapi Galwedigaethol yw hybu annibyniaeth bersonol, gan alluogi rhyddhau unigolion yn ddiogel ac yn amserol. Bydd y Therapydd Galwedigaethol yn cyfarfod ag unigolion ac yn trafod eu nodau, gweithgareddau dyddiol a’u rolau a’u cyfrifoldebau cyn cael eu derbyn.
Mae asesiadau’n archwilio iechyd a lles corfforol, meddwl unigolyn. Bydd y Therapydd Galwedigaethol yn cynnal asesiadau ac yn cefnogi anghenion a nodwyd gan berson, gan ddarparu ymyriadau fel y bo’n briodol.
Gall ymyriadau gynnwys ymarfer ffyrdd newydd ac addasedig o gymryd rhan mewn tasg mor annibynnol â phosibl. Gall y Therapydd Galwedigaethol hefyd ragnodi a darparu offer os oes angen i gynyddu annibyniaeth unigolyn wrth gyflawni tasg. Gall y tîm gyfeirio neu atgyfeirio at asiantaethau allanol a gwasanaethau adsefydlu priodol i barhau i gefnogi nodau parhaus unigolyn ar ôl rhyddhau. Gyda chaniatâd unigolyn, gall y tîm siarad ag aelodau o’u teulu neu ofalwyr i gasglu rhagor o wybodaeth am unrhyw rôl gefnogol ym mywyd unigolyn.
I gefnogi rhyddhau ac adsefydlu parhaus yn y gymuned rydym yn cysylltu â gwasanaethau lleol a rhanbarthol a thimau gofal sylfaenol gan gynnwys y sector gofal cymdeithasol.
Mae rhai gwasanaethau wedi ymestyn oriau gwaith a gweithio 7 diwrnod.
Atgyfeiriadau gan staff ward gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill ar gyfer cleifion mewnol yn unig. Rydym yn gweithio gydag unigolion 18 oed a hŷn. Gall y cleifion mewnol fod yn breswylwyr yng Nghaerdydd a’r Fro, fodd bynnag mae rhai gwasanaethau a ddarparwn ar gyfer cleifion mewnol sy’n byw mewn ardaloedd y tu allan i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gan fod gan rai wardiau yn Ysbyty Athrofaol Cymru ddarpariaeth gwasanaeth rhanbarthol.
Cyfeiriad
Adran Therapi Galwedigaethol, Llawr gwaelod uchaf (coridor cyswllt BC), Ysbyty Athrofaol Cymru, Heath, Caerdydd, CF14 4XW
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.