Uned Adnoddau Anadlol Cymunedol (CRRU)
Mae tîm yr Uned Adnoddau Anadlol Cymunedol (CRRU) yn cynnwys Nyrsys Clinigol Arbenigol, Ffisiotherapyddion, Therapydd Galwedigaethol ac Ymgynghorydd Arweiniol. Nod y gwasanaeth yw darparu gofal amlddisgyblaethol i gefnogi’r rhai sy’n byw gyda Chlefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD).
Darperir asesiadau a thriniaethau amrywiol i’r rhai sy’n dioddef o COPD megis:
- sicrhau bod pobl yn ymwybodol o’u cyflwr a strategaethau hunanreoli
- ymlacio
- ymarfer corff a rheoli pryder
- iselder gyda’r nod o wella ansawdd bywyd cleifion a gofalwyr.
Mae’r tîm hefyd yn cynorthwyo cymorth rhyddhau cyflymach o’r ysbyty, gyda’r nod o leihau’r defnydd o welyau ac annog defnydd priodol o adnoddau Gofal Sylfaenol.
Mae’r tîm yn rhedeg Gwasanaeth Ocsigen Cartref y BIP, gan asesu a monitro’r rhai sydd angen therapi ocsigen hirdymor (LTOT) a chynnal asesiadau risg o safbwynt iechyd a diogelwch ar gyfer y rhai sy’n cael eu rhyddhau adref ag ocsigen lliniarol.
Proses Atgyfeirio CRRU
Rydym yn derbyn atgyfeiriadau o amrywiaeth eang o ffynonellau – meddygon teulu, adrannau damweiniau ac achosion brys, staff wardiau cleifion mewnol, CRT’s a gwasanaethau eraill o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Rydym yn gweithio gydag unigolion 18 oed a hŷn. Rhaid i gleifion fod yn breswylwyr yng nghymunedau Caerdydd a’r Fro. Gellir dod o hyd i ffurflenni cyfeirio ar y dudalen fewnrwyd.
Cysylltwch â ni
Swyddfa’r Uned Adnoddau Anadlol Cymunedol (CRRU).
Ysbyty Athrofaol Llandochau
Heol Penlan
Llandochau
CF64 2XX