Mae cracio neu dorri pigwrn yn anaf cyffredin yn ystod plentyndod. Mae’r mwyafrif yn gwella’n dda, heb gymhlethdodau parhaus neu hirdymor.
Mae esgyrn plant yn gwella’n gyflym ar ôl torri. Fel arfer, bydd rhaid gwisgo cast am 4-8 wythnos. Yn y cyfnod hwnnw bydd y corff yn rhoi haen drwchus o asgwrn newydd o amgylch y torasgwrn er mwyn ei gadw’n ddiogel ac yn ei le
Mae’r hyn sy’n cael ei ddefnyddio i wella’r asgwrn yn dibynnu ar leoliad torasgwrn eich plentyn:
Bydd eich clinigwr yn egluro pa driniaeth sydd orau ar gyfer torasgwrn eich plentyn. Os yw eich plentyn mewn cast llawn neu backslab, fel arfer ni fydd yn cael rhoi pwysau ar y cast o gwbl nes bydd yn cael ei dynnu.
Tra bydd eich plentyn yn gwisgo’r cast, mae’n bwysig cadw cymalau eraill y goes i symud fel nad yw’r pen-glin a’r glun yn mynd yn anystwyth neu’n dy

Os yw eich plentyn wedi cael cymhorthyn cerdded, mae’n bwysig ei ddefnyddio’n gywir.
Am ragor o wybodaeth am ddefnyddio cymhorthion cerdded, cliciwch yma.
Mae teimlo ychydig o boen yn beth digon arferol a bydd rhai plant angen moddion lleddfu poen fel Paracetamol neu gyffuriau gwrthlidiol fel ibuprofen.
Gweler canllawiau lleddfu poen y GIG 111 Cymru.
Gallwch ofyn am gyngor yn eich fferyllfa leol hefyd.
Unwaith y bydd y cast wedi’i dynnu, mae’n arferol i’ch plentyn brofi rhai newidiadau yn y goes, e.e.:
Mae’n bwysig annog eich plentyn i wneud ymarfer corff ysgafn ac ymestyn y pigwrn. Os yw eich plentyn mewn cast, gallwch ddechrau’r rhain y diwrnod y mae’r cast yn cael ei dynnu, neu ar ddiwrnod yr anaf os nad oes angen cast. Bydd symud y pigwrn yn rheolaidd yn cyflymu’r broses wella, gan atal anystwythder a helpu i ddadchwyddo’r anaf.
Ceisiwch gwblhau’r symudiadau hyn 5 gwaith y dydd. Gallwch roi iâ ar bigwrn eich plentyn ar ôl eu cwblhau
Efallai y bydd angen cymorth i gwblhau’r ymarferion i ddechrau ond gydag amser dylen nhw ddod yn haws i’w gwneud yn annibynnol.
Ymestyn gyda thywel
Ymestyniad croth y goes 1
Ymestyniad croth y goes 2
Ceisiwch wneud yr ymarferion canlynol unwaith y bydd eich ffisiotherapydd wedi eich cynghori fod hynny’n addas;
Trosglwyddo pwysau:
Sefwch o flaen drych a cheisiwch sicrhau bod eich coes chwith â’ch coes dde yn cynnal yr un faint o bwysau. Defnyddiwch y drych er mwyn gweld a ydych chi’n gwyro i un ochr. Unwaith y byddwch chi’n gyfforddus yn gwneud hyn, symudwch eich pwysau o ochr i ochr. Os bydd angen, gafaelwch yn rhywbeth cadarn er mwyn cadw cydbwysedd.
Sefyll ar un goes
Cerdded tandem
Unwaith y byddwch chi’n gallu sefyll a rhoi eich holl bwysau ar y pigwrn sydd wedi’i anafu heb deimlo mwy o boen na chwyddo, dylech allu dechrau gwneud ymarferion cryfhau. Rhowch gynnig ar yr ymarferion isod ond os ydyn nhw’n achosi poen a chwyddo, gorffwyswch, cyn dal ati pan fyddwch chi’n teimlo’n gryfach.
Cwblhewch yr ymarferion hyn 10 gwaith, unwaith neu ddwywaith y dydd am 2-4 wythnos. Gallwch ddefnyddio bandiau gwrthiant neu ddefnyddio’r droed arall i ychwanegu gwrthiant i’r ymarferion.
Gwthio bysedd traed
Codi yn erbyn gwrthiant
Troi troed yn erbyn gwrthiant
Trowch droed tuag allan yn erbyn gwrthiant
Ar agor ar gyfer problemau plaster rhwng 08:15 a 15:30 Dydd Llun — Dydd Gwener. Ffoniwch 02921847991 neu 02921847569
Y tu allan i’r oriau hyn cysylltwch â’r uned achosion brys ar 02920748018 neu 02920748094
Ysbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd CF14 4XW
Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y wybodaeth hon, cysylltwch ag Adran Cleifion Allanol Dolffin ar 02921 847577.
Os nad oes gan eich plentyn apwyntiad wedi’i drefnu gyda’r adran ffisiotherapi a bod y symptomau’n parhau, neu os nad ydynt yn gwella’n raddol, yna gallwch hunan-atgyfeirio eich plentyn i’r Adran Cleifion Allanol Ffisiotherapi Pediatrig trwy ffonio’r llinell atgyfeirio ar 02921 836908.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.