Torri Braich

Mae toresgyrn neu esgyrn wedi’u cracio yn anafiadau cyffredin mewn plant oherwydd gweithgarwch cynyddol ac esgyrn sy’n tyfu.

Upper limb fracture / Torasgwrn yn rhan uchaf y corff

Mae plant yn fwy tebygol o dorri arddyrnau, breichiau, penelinoedd a phigyrnau, sydd fel arfer yn digwydd ar ôl cwympo.

Ymarferion

Ystod o Ymarferion Symud

Dylech annog ystod o ymarferion symud ysgafn cyn gynted ag y mae’r cast yn cael ei dynnu, yn ogystal ag annog eich plentyn i ddechrau defnyddio’r fraich yn ei weithgareddau dyddiol. Mae’n arferol i blant ffafrio’r ochr arall i ddechrau gan eu bod wedi arfer cael y fraich a anafwyd yn llonydd mewn cast. Dylid cwblhau ystod o symudiadau bychan holl gymalau’r fraich a anafwyd yn aml drwy gydol y dydd.

Isod mae rhai symudiadau i’w defnyddio gyda phlant unwaith y bydd y cast wedi’i dynnu er mwyn lleihau anystwythder, chwyddo a dechrau cryfhau cyhyrau’r fraich.

Plygu’r Ysgwydd

  • Sefwch yn syth gyda’ch breichiau wrth eich ochr. 
  • Codwch un fraich ymlaen ac i fyny gyda’r bawd yn arwain y symudiad.
  • Dewch â’r fraich yn ôl i’r man cychwyn.
Standing up straight with arm raised straight / Sefwch yn syth gyda’ch braich wedi’i chodi’n syth.
Standing up straight / Sefwch yn syth
Arm bent at elbow with arm facing upwards / Dewch â chledr eich llaw i lawr tuag at eich arddwrn.

Ymestyn a Phlygu’r Penelin

  • Plygwch eich penelin a chynorthwywch y symudiad gyda’ch llaw arall os oes angen. 
  • Sythwch eich penelin.
Bringing your palm down towards your wrist,
Arm bent at elbow with arm facing upwards / Dewch â chledr eich llaw i lawr tuag at eich arddwrn.

Ymestyn a Phlygu’r Arddwrn

  • Gan ddechrau gyda’ch arddwrn mewn safle niwtral, dewch â chledr eich llaw i lawr tuag at eich arddwrn.
  • Yna, sythwch eich arddwrn.
  • Ailadroddwch y symudiad.

Gwyriad Rheiddiol ac Wlnar

  • Gorffwyswch eich braich a’ch llaw ar fwrdd. 
  • Daliwch eich bysedd a’ch arddwrn yn syth.
  • Plygwch eich arddwrn yn gyntaf tuag at y bys bach ac yna tuag at y bawd.

Swpiniad a Phronadiad

  • Rhowch flaen eich braich ar fwrdd gyda chledr eich llaw wedi’i droi i lawr.
  • Am yn ail, trowch gledr eich llaw i fyny ac i lawr gan gadw’r penelin yn llonydd.
Hand squeezing putty / Gwasgwch glai yn eich llaw

Ymarferion Dwylo

Anogwch blant i chwarae gyda chlai, pwti neu lysnafedd chwarae. Bydd hyn yn cryfhau’r gafael ac yn gwella deheurwydd dwylo.

Arm stretch1
Child sitting with palm pressing down on the floor and arm straight.
A

Ymestyniadau Arddwrn a Braich

Isod mae rhai enghreifftiau o ymestyniadau arddwrn a braich. Daliwch yr ymestyniad am 30 eiliad ac ailadroddwch 3 gwaith y dydd. Dylai eich plentyn deimlo ychydig o ymestyn/tynnu ond ni ddylai fod yn boenus.

Ymarferion Gwrthiant

Unwaith y byddwch wedi cael ystod lawn o symudiadau yn y fraich sydd wedi’i hanafu a ffisiotherapydd wedi asesu eich symudiadau, gallwch symud ymlaen i gryfhau eich braich gyda’r ymarferion canlynol.

Taflu a dal

Isod mae enghreifftiau o ymarferion taflu y gallech chi eu gwneud. Gwnewch bob ymarfer 12 gwaith a gwneud 3 set o bob un.

  • Dal pêl a’i bownsio ar y llawr
  • Dal pêl a’i bownsio yn erbyn wal
  • Taflu pêl i mewn i rwyd pêl-fasged/pêl-rwyd

Ymestyn penelin gyda theraband

  • Gorweddwch ar eich cefn, gwasgwch lafnau eich ysgwyddau at ei gilydd a’u cadw yno ar gyfer yr ymarfer. 
  • Plygwch eich penelin a daliwch y theraband. 
  • Gofynnwch i’ch rhiant/gofalwr sefyll wrth y gwely i ddal y theraband yn dynn. 
  • Sythwch eich braich yn araf, gan dynnu’r band i lawr tuag at eich traed, yna, plygwch eich braich yn araf i fynd yn ôl i’r dechrau.
  • Cwblhewch yr ymarfer 8 gwaith, gyda 3 set o bob un.
Gorweddwch ar wely yn dal theraband gyda’ch penelin wedi’i blygu.
Lying on bed holding a theraband with elbow bent. / Gorweddwch ar wely yn dal theraband gyda’ch penelin wedi’i blygu.

Plygu penelin gyda theraband

  • Gorweddwch ar eich cefn, gwasgwch lafnau eich ysgwyddau at ei gilydd a’u dal felly. 
  • Dechreuwch gyda’ch braich yn syth wrth eich ochr.
  • Gofynnwch i’ch rhiant/gofalwr sefyll wrth eich traed gan ddal un pen y theraband, tra byddwch chi yn dal y pen arall.
  • Dylai’r band gael ei ddal yn dynn.
  • Plygwch eich penelin, yna sythwch eich penelin yn ôl i’r pwynt dechrau. 
  • Cwblhewch yr ymarfer 8 gwaith, gyda 3 set o bob un.
Lying on bed. Parent holding one end of the theraband, whilst you hold the other end with elbow bent. / Gorweddwch ar wely. Rhiant i ddal un pen y theraband, tra byddwch chi’n dal y pen arall gyda’ch penelin wedi’i blygu.

Symudiadau gweithredol gyda phwysau

Cwblhewch yr un symudiadau a wnaethoch ar gyfer yr ‘ystod o ymarferion symud’, ond gyda phwysau ysgafn, er enghraifft, pêl denis, tun o fwyd neu botel.

Gellir cynyddu’r pwysau os yw’n teimlo’n gyffyrddus. Cwblhewch yr ymarfer 12 gwaith a gwneud 3 set o bob un.

Gwthio yn erbyn wal

  • Sefwch yn wynebu’r wal gyda chledrau eich dwylo ar lefel eich ysgwyddau ac ychydig yn lletach na’ch ysgwyddau.
  • Dechreuwch gyda’ch penelinoedd yn syth, pwyswch i mewn i’ch breichiau a phlygwch eich penelinoedd yn araf i ddod â’ch brest at y wal.
  • Yna, sythwch eich breichiau i fynd yn ôl i’r dechrau.
  • Cwblhewch 8 gwaith, gyda 3 set o bob un.
A

Superman

  • Dechreuwch fel petaech am gropian gyda’ch dwylo yn union o dan eich ysgwyddau a’ch pengliniau’n union o dan eich cluniau.
  • Codwch un fraich nes bod eich llaw yr un lefel â’ch ysgwydd.
  • Daliwch eich braich fel hyn tra byddwch yn codi’r goes gyferbyn y tu ôl i chi.
  • Gwthiwch y fraich i lawr a cheisiwch gadw’ch corff yn wastad.
  • Tynnwch gyhyrau eich bola i mewn i atal eich cefn rhag codi.
  • Daliwch am 5 eiliad, yna ymlaciwch.
  • Cwblhewch 8 gwaith, gyda 3 set o bob un ar bob ochr.
Crawling position on hands and knees.
Noah's Ark Children's Hospital for Wales, Ysbyty Plant Cymru

Ar agor ar gyfer problemau plaster rhwng 08:15 a 15:30 Dydd Llun — Dydd Gwener. Ffoniwch 02921847991 neu 02921847569

Y tu allan i’r oriau hyn cysylltwch â’r uned achosion brys ar 02920748018 neu 02920748094

Ysbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd CF14 4XW

Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y wybodaeth hon, cysylltwch ag Adran Cleifion Allanol Dolffin ar 02921 847577.

Os nad oes gan eich plentyn apwyntiad wedi’i drefnu gyda’r adran ffisiotherapi a bod y symptomau’n parhau, neu os nad ydynt yn gwella’n raddol, yna gallwch hunan-atgyfeirio eich plentyn i’r Adran Cleifion Allanol Ffisiotherapi Pediatrig trwy ffonio’r llinell atgyfeirio ar 02921 836908.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.