Toresgyrn Coesau

Mae toresgyrn (fractures) neu esgyrn wedi’u torri yn anafiadau cyffredin ymhlith plant oherwydd gweithgarwch cynyddol ac esgyrn sy’n tyfu.

Mae’r rhan fwyaf o doresgyrn yn gwella’n dda ac nid ydynt yn achosi cymhlethdodau parhaus na hirdymor.

Mae plant yn fwy tebygol o dorri arddyrnau, breichiau, penelinoedd a phigyrnau – ar ôl cwympo fel arfer.

Mae esgyrn plant yn gwella’n gyflym ar ôl torri. Fel arfer, bydd rhaid gwisgo cast am 4-8 wythnos. Yn y cyfnod hwnnw bydd y corff yn rhoi haen drwchus o asgwrn newydd o amgylch y torasgwrn er mwyn ei gadw’n ddiogel ac yn ei le.

Child walking with crutches and broken lower leg / Plentyn yn cerdded gyda baglau a rhan isaf y goes wedi’i thorri

Ymarferion

Amrywiaeth o Ymarferion Symud

Dylech annog eich plentyn i wneud ymarferion symud ysgafn (ROM) cyn gynted ag y bydd y cast yn cael ei dynnu. Dylech ei annog hefyd i gerdded a dechrau rhoi pwysau cyfartal ar y ddwy goes.

Ceisiwch annog eich plentyn i ddechrau defnyddio ei goesau fel yr oedd yn arfer ei wneud a symud ei gymalau a chryfhau’r cyhyrau sydd wedi bod yn llonydd yn y cast.

Isod mae rhai symudiadau i’w defnyddio gyda phlant bach a phlant hŷn unwaith y bydd y cast wedi’i dynnu er mwyn lleihau anystwythder, chwyddo a’u hannog i gynnal pwysau i gryfhau eu cyhyrau.

Ymarferion ar gyfer Plant Bach

Mae’n syniad da gwneud amrywiaeth o weithgareddau symud ysgafn yn y bath i ddechrau, gan fod y dŵr cynnes yn helpu i leddfu anystwythder.

Ceisiwch wneud y gweithgareddau canlynol gyda’ch plentyn:

  • Sillafu ei enw gan ddefnyddio ei bigwrn
Tracing the letter A with foot / Ffurfiwch siâp y llythyren A gyda’ch troe
Tracing the letter B with foot / Ffurfiwch siâp y llythyren B gyda’ch troe
  • Plygu a sythu’r pen-glin
  • Os yw eich plentyn yn rhy ifanc i wneud hyn, gallwch chi symud ei gymalau.
Sitting on floor with legs in front, bending one knee. / Eistedd ar y llawr gyda’r coesau o’i flaen, yn plygu un pen-glin.

 

Cynnal pwysau ar y goes sydd wedi’i hanafu

Rhowch gynnig ar y canlynol ar gyfer plant bach:

  • Eisteddwch ar y llawr gyda’ch plentyn yn eich côl
  • Rhowch ei draed yn wastad ar y llawr o’i flaen a’i annog i ymestyn i godi teganau oddi ar y llawr
  • Ceisiwch ei annog i sefyll oddi ar eich côl neu fainc fach i chwarae
Child sitting on mum's knee / Plentyn yn eistedd ar lin ei fam
  • Symud o ochr i ochr a chadw’r bysedd traed yn wynebu ymlaen wrth chwarae

Ymarferion ar gyfer plant hŷn

Fel gyda phlant bach, mae’n bwysig annog amrywiaeth o ymarferion symud ysgafn cyn gynted ag y bydd y cast wedi’i dynnu er mwyn lleihau anystwythder.

  • Sefwch o flaen drych gyda’r traed led clun ar wahân.
  • Sefwch yn dalsyth a gwneud yn siŵr bod y pwysau’n hafal ar y ddwy goes.
  • Bydd y drych yn eich helpu i weld hyn yn well.
  • Sillafu ei enw gan ddefnyddio ei bigwrn
Tracing the letter A with foot / Ffurfiwch siâp y llythyren A gyda’ch troe
Tracing the letter B with foot / Ffurfiwch siâp y llythyren B gyda’ch troe
  • Plygu a sythu’r pen-glin
Sitting on floor with legs in front, bending one knee. / Eistedd ar y llawr gyda’r coesau o’i flaen, yn plygu un pen-glin.

Ewch ymlaen i wneud yr ymarferion canlynol ar ôl i chi gael gwybod bod hynny’n ddiogel:

  • Camu yn eich unfan
  • Camu i fyny
  • Cyrcydiadau bach

Ymarferion cynnal pwysau

  • Sefwch yn dalsyth gyda’ch traed yn cyffwrdd â’i gilydd gan ddal gafael ar rywbeth cadarn i’ch helpu i gadw cydbwysedd.
  • Yna sefwch ar y goes sydd wedi’i hanafu.
Standing on one leg, n to a desk for support.

Codi Coesau

  • Sefwch yn dalsyth gyda’ch traed yn cyffwrdd â’i gilydd gan ddal gafael ar rywbeth cadarn i’ch helpu i gadw cydbwysedd.
  • Yna sefwch ar y goes sydd wedi’i hanafu.
Sitting on floor with legs outstretched, lifting up one leg /Eistedd ar y llawr gyda’r coesau ar led, yn codi un goes.

Pontio

  • Gorweddwch ar y llawr gyda’ch coesau wedi’u hymestyn o’ch blaen.
  • Plygwch eich pengliniau a rhoi gwadnau eich traed i orffwys ar y llawr.
  • Gan ddefnyddio eich traed i gynnal y pwysau, codwch eich pen-ôl oddi ar y llawr yn araf.
Lying on floor with legs in front bent at knees / Gorwedd ar y llawr gyda’r coesau o’i flaen wedi’u plygu wrth y pengliniau
Lying on floor with knees bent and the soles of feet on the floor.

Cerdded

  • Mae cerdded yn ymarfer gwych hefyd.
  • Cynyddwch y pellter a’r cyflymder yn araf yn ôl terfynau poen eich plentyn.
  • Gwnewch yn siŵr nad ydy’ch plentyn yn gwneud gormod ac angen ychydig ddyddiau i wella wedyn.
  • Gwnewch yn siŵr ei fod yn cerdded ar gyflymdra cyfforddus ac yn cynyddu’r pellter yn araf bob dydd.
Noah's Ark Children's Hospital for Wales, Ysbyty Plant Cymru

Ar agor ar gyfer problemau plaster rhwng 08:15 a 15:30 Dydd Llun — Dydd Gwener. Ffoniwch 02921847991 neu 02921847569

Y tu allan i’r oriau hyn cysylltwch â’r uned achosion brys ar 02920748018 neu 02920748094

Ysbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd CF14 4XW

Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y wybodaeth hon, cysylltwch ag Adran Cleifion Allanol Dolffin ar 02921 847577.

Os nad oes gan eich plentyn apwyntiad wedi’i drefnu gyda’r adran ffisiotherapi a bod y symptomau’n parhau, neu os nad ydynt yn gwella’n raddol, yna gallwch hunan-atgyfeirio eich plentyn i’r Adran Cleifion Allanol Ffisiotherapi Pediatrig trwy ffonio’r llinell atgyfeirio ar 02921 836908.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.