Datgymalu’r badell pen-glin

Mae’r padell pen-glin yn llithro i fyny ac i lawr mewn rhigol ar ben asgwrn y clun (ffemwr).

Datgymaliad yw pan fydd y badell pen-glin yn dod allan o’i rhigol arferol.

Mae ambell beth sy’n achosi i’r badell pen-glin ddatgymalu:

Brês meddal ar gyfer y pen-glin / Soft knee brace

Trawma

Mae’n cael ei achosi gan drawiad, yn aml wrth gymryd rhan mewn chwaraeon fel rygbi neu bêl-droed, neu wrth newid cyfeiriad yn sydyn wrth gymryd rhan mewn chwaraeon.

 

Di-drawma

Os nad oes achos trawmatig, efallai bod eich padell pen-glin wedi datgymalu o ganlyniad i ffactorau rhagdueddol, e.e.:

  • Os ydych chi’n hynod ystwyth.
  • Os oes gennych rigol bas neu os yw rhigol y badell pen-glin wedi newid ei siâp – enw hyn yw trochlea dysplasia.
  • Trawma / anaf blaenorol / datgymalu blaenorol heb adsefydlu digonol.
  • Os oes gan siâp eich corff ongl gynyddol rhwng eich cluniau a’ch pengliniau – mae’n llawer mwy cyffredin mewn merched.
  • Diffyg cydbwysedd yng nghryfder a hyd y cyhyrau nes bod y cyhyrau yn tynnu’r badell pen-glin ar ongl wahanol.
  • Padell pen-glin anarferol o uchel – patella alta.

Sut mae’r badell pen-glin yn datgymalu?

Mae eich padell pen-glin y fwy tebygol o ddatgymalu i’r ochr. Yn aml, bydd yn mynd yn ôl i’r rhigol ar ei phen ei hun pan fyddwch chi’n sythu’r pen-glin.

O bryd i’w gilydd, fydd hyn ddim yn digwydd ac efallai y bydd yn rhaid i weithiwr meddygol proffesiynol eich helpu i’w hadleoli.

Pan fydd y badell pen-glin yn symud wysg ei hochr o’r rhigol, bydd hyn yn ymestyn gewyn ar ochr fewnol eich pen-glin sy’n gallu bod yn boenus am ychydig pan fydd eich padell pen-glin yn cael ei hadleoli.

Diagram o’r pen-glin gyda gewyn, llinyn, asgwrn, cyhyr a chartilag wedi’u labelu.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am yr wybodaeth hon, cysylltwch â Chleifion Allanol Dolphin ar 02921 847577.

Os nad oes gan eich plentyn apwyntiad wedi’i drefnu gyda’r adran ffisiotherapi ac mae’r symptomau’n parhau, neu os nad ydynt yn gwella’n raddol, gallwch hunangyfeirio eich plentyn i’r Adran Cleifion Allanol Ffisiotherapi Pediatrig drwy ffonio ein llinell atgyfeirio ar 02921 836908.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.