Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Poen Cefn a Gwddf mewn Plant

Asgwrn cefn y plentyn

Sut mae’r asgwrn cefn yn gweithio?

Mae’r asgwrn cefn yn un o rannau cryfaf y corff. Mae’n cynnwys llawer o esgyrn o’r enw fertebrau, sydd wedi’u pentyrru ar ben ei gilydd. Mae hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i’n hasgwrn cefn symud.

Mae’r fertebrau yn cael eu dal gyda’i gilydd gan gyhyrau a gewynnau cryf, sy’n rhoi llawer o sefydlogrwydd i’n hasgwrn cefn. Mae disgiau bach rhwng pob fertebra sy’n gweithredu fel siocladdwyr.

Yn ogystal, mae’r asgwrn cefn yn ffurfio twnnel amddiffynnol ar gyfer llinyn y cefn. Mae llinyn y cefn yn system o nerfau sy’n cario negeseuon pwysig rhwng yr ymennydd a gweddill y corff.

Dylech chi gysylltu â’ch meddyg i gael adolygiad brys os oes gan eich plentyn boen cefn neu wddf ac unrhyw un o’r symptomau canlynol hefyd:

  • Deffro’n rheolaidd yn ystod y nos oherwydd y boen
  • Poen neu anystwythder sy’n waeth am awr neu fwy ar ôl deffro yn y bore
  • Teimlo’n sâl yn gyffredinol neu gyda gwres/twymyn Wedi colli pwysau heb esboniad
  • Pen tost newydd, cyfog, neu chwydu
  • Troadau asgwrn cefn sy’n edrych yn wahanol
  • Mewn achosion prin iawn mae angen rhoi sylw ar unwaith i broblemau sy’n gysylltiedig â’r cefn.

Os oes gan eich plentyn unrhyw un o’r symptomau isod, dylech chi ffonio 111 neu eich meddyg teulu ar frys er mwyn penderfynu a oes angen gofal brys arno:

  • Pinnau bach neu golli teimlad rhwng y forddwyd fewnol neu’r organau rhywiol
  • Teimlad gwahanol a/neu boen gyson yn y ddwy goes ar yr un pryd
  • Colli teimlad yn yr anws neu fochau pen-ôl neu o’u hamgylch
  • Newidiadau yn nefnydd y bledren neu’r coluddyn
  • Dal y pen i un ochr 
  • Poen sy’n dechrau’n sydyn ar ôl trawma neu weithgaredd chwaraeon.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y wybodaeth hon, cysylltwch ag Adran Cleifion Allanol Dolffin ar 02921 847577.

Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content