Ysigiad Pigwrn

Ysigiadau pigwrn yw un o’r anafiadau mwyaf cyffredin yn ystod plentyndod.

Mae’r anafiadau hyn yn achosi i’r gewynnau or-ymestyn ac mae’n achosi rhwygiadau a gwaedu. Fel arfer, byddwch chi’n sylwi ar chwyddo a chleisio o amgylch cymal y pigwrn yn dilyn yr anafiadau hyn. Mae’r cleisio yn gallu cymryd ychydig ddyddiau i ymddangos.

Ymarferion

Amrywiaeth o Ymarferion Symud

Mae’n bwysig annog eich plentyn i wneud ymarfer corff ysgafn ac ymestyn y pigwrn. Gellir dechrau’r ymarferion hyn ar ddiwrnod yr anaf. Bydd symud y pigwrn yn aml yn helpu i gyflymu’r broses wella, gan osgoi anystwythder a helpu i leihau’r chwyddo.

Ceisiwch gwblhau’r symudiadau hyn 5 gwaith y dydd. Gallwch roi iâ ar bigwrn eich plentyn ar ôl eu cwblhau

  • Trowch wadnau’r traed tuag at i mewn nes eu bod yn wynebu ei gilyd
  • Trowch eich traed am allan fel bod gwadnau’r traed yn wynebu oddi wrth ei gilydd

Efallai y bydd angen cymorth i gwblhau’r ymarferion i ddechrau ond gydag amser dylen nhw ddod yn haws i’w gwneud yn annibynnol.

Ymarferion propriodderbyniaeth (cydbwysedd)

Ceisiwch gwblhau’r ymarferion canlynol unwaith y bydd eich ffisiotherapydd wedi cynghori ei bod yn briodol gwneud hynny;

Trosglwyddo pwysau:
Sefwch o flaen drych a cheisiwch sicrhau bod eich coes chwith â’ch coes dde yn cynnal yr un faint o bwysau. Defnyddiwch y drych er mwyn gweld a ydych chi’n gwyro i un ochr. Unwaith y byddwch chi’n gyfforddus yn gwneud hyn, symudwch eich pwysau o ochr i ochr. Os bydd angen, gafaelwch yn rhywbeth cadarn er mwyn cadw cydbwysedd.

Walking with one foot in front of the other like on a tightrope / Cerddwch gydag un droed o flaen y llall fel petaech ar raff dyn

Cerdded tandem

  • Dychmygwch eich bod chi’n cerdded ar raff dynn. ·
  • Gosodwch sawdl un droed o flaen bysedd y droed arall.
  • Ailadroddwch hyn a cherdded yn eich blae
Single Leg stand / Ceisiwch sefyll ar y goes sydd wedi’i hanafu.

Sefyll ar un goes

  • Ceisiwch sefyll ar y goes sydd wedi’i hanafu.
  • Cydbwysedd.
  • Ceisiwch gadw cydbwysedd am 30 eiliad.
  • Gwnewch yn siŵr bod rhywbeth cadarn gerllaw y gallwch afael ynddo os byddwch yn colli cydbwysedd.

Unwaith y byddwch chi’n gallu sefyll a rhoi eich holl bwysau ar y pigwrn sydd wedi’i anafu heb deimlo mwy o boen na chwyddo, dylech allu dechrau gwneud ymarferion cryfhau. Rhowch gynnig ar yr ymarferion isod ond os ydyn nhw’n achosi poen a chwyddo, gorffwyswch, cyn dal ati pan fyddwch chi’n teimlo’n gryfach.

Cwblhewch yr ymarferion hyn 10 gwaith, unwaith neu ddwywaith y dydd am 2-4 wythnos. Gallwch ddefnyddio bandiau gwrthiant neu ddefnyddio’r droed arall i ychwanegu gwrthiant i’r ymarferion.

Ymarferion cryfhau

Standing tall with feet flat on ground / Sefwch yn dalsyth gyda’r traed yn wastad ar y llawr.
Pushing up on to toes and with heals off the ground / Codwch eich sodlau oddi ar y llawr nes eich bod yn sefyll ar flaenau eich traed.

Gwthio bysedd traed

  • Sefwch yn dalsyth cyn dechrau gwthio eich hun i fyny’n araf ar flaenau’r traed, gan godi eich sodlau.
  • Arhoswch fel hyn am 3-5 eiliad cyn mynd i lawr yn araf.
  • Ailadroddwch hyn 10 gwaith

Codi yn erbyn gwrthiant

  • Rhowch eich troed mewn band gwrthiant latecs neu dywel wedi’i rolio’n dynn.
  • Codwch eich troed yn erbyn gwrthiant.
  • Daliwch y symudiad am 3-5 eiliad ar ei ddiwedd ac yna dychwelwch yn araf i’r dechrau.
  • Ailadroddwch hyn 10 gwaith.
Rhowch eich troed mewn band gwrthiant latecs neu dywel wedi’i rolio’n dynn.

Troi troed yn erbyn gwrthiant

  • Rhowch eich troed mewn band gwrthiant latecs neu dywel wedi’i rolio’n dynn.
  • Trowch eich troed am allan yn araf yn erbyn y gwrthiant.
  • Daliwch y symudiad am 3-5 eiliad ar ei ddiwedd ac yna dychwelwch yn araf i’r dechrau.
  • Ailadroddwch hyn 10 gwaith.
Rhowch eich troed mewn band gwrthiant latecs neu dywel wedi’i rolio’n dynn.
Using latex resistance band, turn foot outwards against resistance / Rhowch eich troed mewn band gwrthiant latecs neu dywel wedi’i rolio’n dynn a dal yn dynn gyda’r droed arall.

Trowch droed tuag allan yn erbyn gwrthiant

  • Rhowch eich troed mewn band gwrthiant latecs neu dywel wedi’i rolio’n dynn a dal yn dynn gyda’r droed arall.
  • Trowch eich troed am allan yn araf yn erbyn y gwrthiant.
  • Daliwch y symudiad am 3-5 eiliad ar ei ddiwedd ac yna dychwelwch yn araf i’r dechrau.
  • Ailadroddwch hyn 10 gwaith.
Point toes upwards and then point them down to the floor. / Pwyntiwch fysedd eich traed i fyny ac yna pwyntiwch nhw am y llawr · Ffurfiwch siâp y llythyren A gyda’ch troed
  • Pwyntiwch flaenau’r bysedd traed i fyny tuag at y nenfw
  • Pwyntiwch y bysedd traed tuag at y llawr
Tracing the letter A with foot / Ffurfiwch siâp y llythyren A gyda’ch troe

Ffurfiwch lythrennau’r wyddor gyda’r bysedd traed

Tracing the letter B with foot / Ffurfiwch siâp y llythyren B gyda’ch troe
Ankle being bandaged / Rhwymo pigwrn

Mae gan y pigwrn esgyrn a gewynnau cryf sy’n dal yr esgyrn at ei gilydd. Mae’r gewynnau’n helpu i roi sefydlogrwydd i’r pigwrn.

Mae ysigiadau pigwrn yn digwydd yn aml pan rydych chi’n troi ar eich pigwrn gyda symudiad sydyn neu weithred ddirdro.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y wybodaeth hon, cysylltwch ag Adran Cleifion Allanol Dolffin ar 02921 847577.

Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4X

Os nad oes gan eich plentyn apwyntiad wedi’i drefnu gyda’r adran ffisiotherapi a bod y symptomau’n parhau, neu os nad ydynt yn gwella’n raddol, yna gallwch hunan-atgyfeirio eich plentyn i’r Adran Cleifion Allanol Ffisiotherapi Pediatrig trwy ffonio’r llinell atgyfeirio ar 02921 836908.

 

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.