Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yn y Gwasanaeth Adsefydlu Iechyd Meddwl

Mae’r gwasanaeth Adsefydlu Iechyd Meddwl yn cynnwys tair uned – un o fewn Uned Iechyd Meddwl Hafan y Coed a dwy arall sydd wedi’u lleoli o fewn y gymuned

Rydym yn cynnig gwahanol lefelau o gefnogaeth iechyd meddwl a dwyster triniaeth yn seiliedig ar eich anghenion, sydd wedi’u darparu drwy gynlluniau gofal wedi’u teilwra’n unigol.

Group of adults

Beth yw rôl Therapyddion Galwedigaethol yn y Gwasanaeth Adsefydlu Iechyd Meddwl?

Mae Therapyddion Galwedigaethol yn gweithio ar draws y tair uned hyn i gynnig asesiad a chefnogaeth unigol i’ch helpu i oresgyn y rhwystrau rydych chi’n eu hwynebu a dychwelyd i wneud pethau rydych chi’n mwynhau eu gwneud.

Atgyfeiriadau 
Mae atgyfeiriadau i’r Gwasanaethau Adsefydlu Iechyd Meddwl fel arfer yn dod o wasanaethau cleifion mewnol eraill. Mae holl atgyfeiriadau’r Gwasanaeth Adsefydlu yn cael eu trafod mewn cyfarfodydd tîm rheolaidd.

Cyswllt
Cyswllt Hafan y Coed, Ffordd Penlan, Llandochau, Penarth CF64 2XX
02921 824 882

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content