Mae’r tîm Therapi Galwedigaethol yn gweithio ar wardiau meddygol, gofal yr henoed ac anafiadau i’r asgwrn cefn yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.
Rydym yn gweithio gydag unigolion â chyflyrau meddygol amrywiol gan gynnwys cyflyrau cronig, newidiadau corfforol acíwt a’r rhai sydd angen gofal diwedd oes. Rydym yn asesu pobl i helpu i atal dirywiad mewn iechyd a gallu pobl i gynnal gweithgareddau bywyd bob dydd i gynyddu annibyniaeth ac i ailgyflwyno arferion a rolau dyddiol.
Gallwn atgyfeirio pobl at wasanaethau priodol i ddarparu adsefydlu a chymorth parhaus ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Rydym yn gweithio gyda’r unigolyn, aelodau’r teulu a gofalwyr i gydlynu rhyddhau.
Mae Therapyddion Galwedigaethol hefyd yn gweithio yn y tîm eiddilwch ar yr Uned Asesu Brys Meddygol i atal derbyniadau i’r ysbyty a dirywiad yng ngallu pobl i gynnal gweithgareddau bywyd bob dydd trwy asesiadau cynnar, ymyrraeth a sicrhau bod cynllun triniaeth effeithiol yn ei le.
Atgyfeiriadau: Gwneir atgyfeiriadau i’r tîm gan aelodau tîm amlddisgyblaethol pan fo unigolyn yn glaf mewnol yn YALl.
Cyfeiriad:
Prif Adran Therapi Galwedigaethol
Ysbyty Athrofaol Llandochau
Heol Penlan
Penarth CF64 2XX
Cyswllt: 02920 716043
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.