Mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol a pharhaus sy’n byw yn y gymuned.
Mae’r timau hyn yn cynnwys Seiciatryddion, Seicolegwyr, Gweithwyr Cymdeithasol, Therapyddion Galwedigaethol, Nyrsys Iechyd Meddwl, Gweithwyr Cymorth a mwy.
Mae Therapi Galwedigaethol yn cael ei gynnig ym mhob Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Rydym yn anelu at:
Atgyfeiriadau
Gallwch chi gael mynediad i’r gwasanaeth os yw eich meddyg teulu neu glinigwr cyfrifol o’r farn y byddai atgyfeiriad yn cefnogi eich gofal. Dim ond gyda’ch caniatâd chi y gellir cyfeirio at y gwasanaeth. Gallwch chi ail-gyfeirio eich hun at y gwasanaeth hwn os ydych chi wedi bod yng ngofal tîm o fewn y tair blynedd diwethaf.
Os ydych chi eisoes ar agor i dîm iechyd meddwl cymunedol ac yn teimlo y gallech chi fod angen cymorth gan Therapydd Galwedigaethol, gallwch chi drafod hyn gydag aelod o’r tîm/au mae gennych gysylltiad â nhw a gofyn am asesiad.
Cysylltiadau:
De-ddwyrain Caerdydd
Gogledd-orllewin Caerdydd
Y Fro
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.