Gall gofalu am rywun â dementia fod yn heriol, ond gyda’r cymorth cywir gall fod yn werth chweil. Yng nghamau cynnar dementia, mae llawer o bobl yn gallu mwynhau bywyd yn yr un modd â chyn eu diagnosis. Ond wrth i’r symptomau waethygu, gall y person deimlo’n bryderus, dan straen ac ofnus oherwydd methu cofio pethau, dilyn sgyrsiau neu ganolbwyntio.
Mae’n bwysig cefnogi’r unigolyn i gynnal sgiliau, galluoedd a bywyd cymdeithasol gweithredol. Gall hyn hefyd helpu sut maen nhw’n teimlo amdanyn nhw eu hunain. Dysgwch fwy am ofalu am rywun â dementia ar wefan y GIG.
Yn ystod pandemig COVID-19, mae’n bwysig bod person sy’n byw gyda dementia yn parhau i gael y cymorth sydd ei angen arno. Efallai y bydd angen mwy o gymorth arnynt ar hyn o bryd, er enghraifft wrth reoli meddyginiaeth a threfn arferol.
Darllenwch am newidiadau yn ymddygiad pobl sy’n byw gyda dementia, Dysgwch fwy am gefnogi rhywun â dementia, a gweld a phecyn gwybodaeth am ofal i rywun â dementia yn ystod pandemig COVID-19.
Bydd llawer o bobl â dementia hefyd yn byw gyda nam ar eu clyw. Mae tystiolaeth sy’n awgrymu bod pobl sydd wedi colli eu clyw hefyd yn fwy tebygol o ddatblygu dementia, er nad yw’n hysbys ar hyn o bryd pam mae hyn. Gall unrhyw golled mewn clyw sydd heb gael diagnosis hefyd wneud i symptomau dementia ymddangos yn waeth. Dysgwch fwy am ddementia a cholli clyw.
Necessary cookies are absolutely essential for the website to function properly. This category only includes cookies that ensures basic functionalities and security features of the website. These cookies do not store any personal information.
Any cookies that may not be particularly necessary for the website to function and is used specifically to collect user personal data via analytics, ads, other embedded contents are termed as non-necessary cookies. It is mandatory to procure user consent prior to running these cookies on your website.