Mae’n bwysig bod cymorth ar gael i bobl wrth iddynt aros am lawdriniaeth. Mae llawer o bobl yn cael trafferth rheoli poen a symptomau, yn ogystal a hyn mae’n gallu effaithio’n negyddol ar symudedd, hannibyniaeth, lles corfforol a meddyliol pan fyddwch yn aros am gyfnod ar gyfer triniaeth.
Mae VERSUS Arthritis yn sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi pobl sy’n byw gydag arthritis. Mae’r sefydliad wedi argymell darparu cymorth i helpu cleifion reoli symptomau, gwella eich iechyd a’ch lles, a galluogi chi i baratoi’n dda ar gyfer eich llawdriniaeth.
Yn ol yr hargymhellion y sefydliad, mae Bwrdd Iechyd Prifysg ol Caerdydd a’r Fro yn cynnig cymorth ychwanegol drwy’r rhaglen adsefydlu ESCAPE-pain sy’n seiliedig ar dystiolaeth glinigol.
Mae ESCAPE-pain yn rhaglen adsefydlu ar gyfer pobl sydd â phoen cronig yn y cymalau. Mae’r rhaglen yn integreiddio hunanreoli addysgol a strategaethau ymdopi gyda threfn ymarfer corff sydd wedi’i unigoli ar gyfer pawb sy’n ei defnyddio.
Mae’r rhaglen ESCAPE-pain yn helpu i ddeall eich cyflwr, yn dysgu pethau syml i chi y gallwch eu gwneud i’ch helpu eich hun ac yn mynd â chi drwy raglen ymarfer corff flaengar i’ch helpu i reoli eich poen yn well.
Ni fydd y rhaglen yn gwella eich poen yn llwyr, ond ei nod yw lleihau eich poen, gwella’ch gweithrediad corfforol, yn ogystal â’ch hyder yn eich gallu i reoli eich cyflwr.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnig dwy raglen ESCAPE-pain ar wahân:
ESCAPE-pain ar gyfer cluniau/pengliniau – wedi’u cynllunio’n benodol er budd pobl ag arthritis y glun a’r pen-glin.
Cliciwch ar y ddolen isod i ddysgu mwy am arthritis o wefan VERSUS Arthritis:
https://www.versusarthritis.org/
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnig Rhaglen ESCAPE-pain ar gyfer osteoarthritis y glun neu’r pen-glin yn y lleoliadau canlynol:
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn unrhyw un o’r rhaglenni uchod, llenwch y ffurflen gyfeirio isod.
Bydd ffisiotherapydd yn cysylltu â chi dros y ffôn i gadarnhau eich addasrwydd ar gyfer y rhaglen, ac i archebu eich lle arni.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.