Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cydweithio â Chanolfannau Hamdden GLL Better Leisure yng Nghaerdydd a Canolfan Hamdden y Barri i ddarparu sesiynau ymarfer corff yn y dŵr i’ch helpu i baratoi ar gyfer llawdriniaethau orthopedig i gael clun neu ben-glin newydd neu wella ar ôl cael llawdriniaeth.
Un ffordd o gadw’n heini a chael eich cymalau i symud wrth aros am lawdriniaeth yw gwneud ymarferion yn y dŵr fel nofio, cerdded yn y pwll neu ddosbarthiadau ymarfer corff yn y pwll.
Mae llawer o effeithiau cadarnhaol i ymarfer corff mewn dŵr, fel:
Mae technoleg Good Boost yn gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu elwa o weithgareddau yn y dŵr er mwyn gwella eu hiechyd a’u lles gymaint â phosibl drwy symud mwy, cael hwyl a theimlo’n well.
Mae unigolion yn defnyddio tabledau sy’n gwrthsefyll dŵr i’w harwain drwy raglen ymarfer corff sydd wedi’i chynllunio o gwmpas eu hanghenion. Gwneir hyn mewn sesiwn grŵp gyda phobl yn gweithio drwy eu set eu hunain o ymarferion ar eu cyflymder eu hunain.
Cliciwch isod o wybodaeth am amseroedd a threfniadau archebu ar gyfer sesiynau Good Boost mewn canolfannau hamdden yng Nghaerdydd a Barri.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.