Poen

Gellir diffinio poen fel:

“...profiad synhwyraidd ac emosiynol annymunol a all gael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd, iechyd cyffredinol, iechyd seicolegol, a lles cymdeithasol ac economaidd person”

Pain

Mae poen yn gymhleth iawn ac mae llawer o resymau pam y gallai eich plentyn brofi poen. Mae yna hefyd wahanol fathau o boen.

Rydym i gyd yn gyfarwydd â phoen ‘acíwt’ sy’n digwydd o ganlyniad i anaf fel ysigo’r ffêr. Bydd y math hwn o boen fel arfer yn gwella o fewn 3 mis.

Poen acíwt

Poen cronig neu barhaus

Gwyliwch y fideo hwn os hoffech chi wybod mwy am boen parhaus neu gronig.

Poen cronig neu barhaus: - Cwsg gwael a blinder > - Hwyliau isel, dicter, rhwystredigaeth neu straen > - Effaith ar gydberthnasau gyda theulu a ffrindiau > - Llai o weithgareddau ac effaith ar bresenoldeb yn yr ysgol

Mae’r diagram yn dangos yr effaith y gall poen cronig ei chael ar blentyn neu berson ifanc. Gall y boen achosi anhawster cysgu ac mae’r blinder sy’n deillio o hynny yn effeithio ar bresenoldeb yn yr ysgol ac yn arwain at beidio â chymryd rhan mewn cymaint o weithgareddau, sy’n cael effaith ar gydberthnasau gyda ffrindiau a theulu ac yn achosi rhwystredigaeth a hwyliau isel.

Ymdopi â phoen

Mae cysylltiad agos rhwng poen ac effeithiau cwsg, straen, gorbryder ac iselder (yn debyg i lawer o gyflyrau eraill). Weithiau gall fod yn ddefnyddiol meddwl am boen fel switsh sain. Efallai y bydd pethau y byddwch yn dod ar eu traws yn ‘cynyddu’r sain’ neu’n cynyddu faint o boen rydych chi’n ei deimlo, fel rhai symudiadau, gweithgareddau neu pan fyddwch yn teimlo dan straen.

Gall ymarfer strategaethau a all ein helpu i ymdopi â straen, a helpu gyda’n lles hefyd, fod yn ddefnyddiol ar gyfer rheoli poen.

Dolenni defnyddiol

volume switch

Deall Poen Parhaus

Sut i leihau faint o boen parhaus rydych chi’n ei deimlo.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.