Uned Adsefydlu Niwrolegol Arbenigol

Mae’r Uned Adsefydlu Niwrolegol Arbenigol yn wasanaeth rhanbarthol ar gyfer cleifion sydd ag anafiadau caffaeledig i’r ymennydd. Mae’r cleifion yn elwa o wasanaeth therapi galwedigaethol arbenigol iawn sy’n helpu’r rhai sydd ag anafiadau i’r ymennydd i fyw bywydau mor foddhaus ac annibynnol â phosib.

  • Mae hyn yn cynnwys cleifion sydd ag:
  • Anaf trawmatig i’r ymennydd
  • Gwaedlif ar yr ymennydd
  • Enseffalitis
  • Anafiadau hypocsig i’r ymennydd
  • Tiwmorau’r ymennydd
  • Slerosis Ymledol.

Beth yw rôl Therapyddion Galwedigaethol?

Mae’r tîm Therapi Galwedigaethol ar gyfer Adsefydlu Niwrolegol Arbenigol wedi’i leoli yn y Ganolfan Adsefydlu Anafiadau Madruddyn y Cefn a Niwrolegol Arbenigol yn Ysbyty’r Brifysgol Llandochau ym Mhenarth. Rydyn ni’n gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol i drin pobl yn dilyn anaf i’r ymennydd. Rydyn ni’n gweithio gydag unigolion a’u teuluoedd i adnabod cryfderau yn ogystal â meysydd anhawster a sut y gall y rhain effeithio ar eu trefn ddyddiol. Rydyn ni’n gosod nodau ac yn cydweithio drwy’r cynllun adsefydlu tuag at gyflawni’r lefel uchaf bosibl o annibyniaeth a gallu.

Dyma rai o’r ffyrdd y gallwn ni helpu yn dilyn anaf i’r ymennydd:

  • Technegau addysgu a gweithgareddau sy’n ymwneud ag annibyniaeth mewn gweithgareddau dyddiol fel ymolchi a gwisgo neu baratoi prydau bwyd
  • Strategaethau i helpu gydag anawsterau gwybyddol
  • Cefnogaeth mynediad i’r gymuned, er enghraifft i helpu’r unigolyn i ddefnyddio archfarchnadoedd neu drafnidiaeth gyhoeddus
  • Help i ddychwelyd i wneud gweithgareddau cymdeithasol a chwaraeon / hobïau
  • Cyngor ar offer arbenigol fel cadeiriau olwyn, teclynnau codi, cymhorthion cegin
  • Asesiad symud a thrin
  • Addasiadau cartref ac asesiadau tai
  • Addysg a hyfforddiant i ofalwyr a theuluoedd
  • Sblintio i leihau tôn, cyfangiadau a gwella gosodiadau ymarferol

Mae therapyddion hyfforddedig yn asesu unigolion ag anhwylderau ymwybyddiaeth hirdymor. Rydym yn cynnal ystod o asesiadau arbenigol sy’n ceisio nodi ymwybyddiaeth bosibl mewn oedolion sydd â niwed difrifol i’r ymennydd a sefydlu a oes ganddyn nhw unrhyw alluoedd swyddogaethol a chyfathrebu.

Fideos ac adnoddau

Cliciwch yma am gasgliad o fideos, dolenni ac adnoddau sy’n ymdrin â materion a help i’r rhai sy’n gwella o, neu sy’n cael eu heffeithio gan, anaf i’r ymennydd.

Atgyfeiriadau
Mae atgyfeiriadau yn cael eu gwneud drwy’r meddyg ymgynghorol: Dr Andrea Lowman a Dr Ellie Marsh.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.