Uned Adsefydlu Niwrolegol Arbenigol
Mae’r Uned Adsefydlu Niwrolegol Arbenigol yn wasanaeth rhanbarthol ar gyfer cleifion sydd ag anafiadau caffaeledig i’r ymennydd. Mae’r cleifion yn elwa o wasanaeth therapi galwedigaethol arbenigol iawn sy’n helpu’r rhai sydd ag anafiadau i’r ymennydd i fyw bywydau mor foddhaus ac annibynnol â phosib.
- Mae hyn yn cynnwys cleifion sydd ag:
- Anaf trawmatig i’r ymennydd
- Gwaedlif ar yr ymennydd
- Enseffalitis
- Anafiadau hypocsig i’r ymennydd
- Tiwmorau’r ymennydd
- Slerosis Ymledol.
Beth yw rôl Therapyddion Galwedigaethol?
Mae’r tîm Therapi Galwedigaethol ar gyfer Adsefydlu Niwrolegol Arbenigol wedi’i leoli yn y Ganolfan Adsefydlu Anafiadau Madruddyn y Cefn a Niwrolegol Arbenigol yn Ysbyty’r Brifysgol Llandochau ym Mhenarth. Rydyn ni’n gweithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol i drin pobl yn dilyn anaf i’r ymennydd. Rydyn ni’n gweithio gydag unigolion a’u teuluoedd i adnabod cryfderau yn ogystal â meysydd anhawster a sut y gall y rhain effeithio ar eu trefn ddyddiol. Rydyn ni’n gosod nodau ac yn cydweithio drwy’r cynllun adsefydlu tuag at gyflawni’r lefel uchaf bosibl o annibyniaeth a gallu.
Dyma rai o’r ffyrdd y gallwn ni helpu yn dilyn anaf i’r ymennydd:
- Technegau addysgu a gweithgareddau sy’n ymwneud ag annibyniaeth mewn gweithgareddau dyddiol fel ymolchi a gwisgo neu baratoi prydau bwyd
- Strategaethau i helpu gydag anawsterau gwybyddol
- Cefnogaeth mynediad i’r gymuned, er enghraifft i helpu’r unigolyn i ddefnyddio archfarchnadoedd neu drafnidiaeth gyhoeddus
- Help i ddychwelyd i wneud gweithgareddau cymdeithasol a chwaraeon / hobïau
- Cyngor ar offer arbenigol fel cadeiriau olwyn, teclynnau codi, cymhorthion cegin
- Asesiad symud a thrin
- Addasiadau cartref ac asesiadau tai
- Addysg a hyfforddiant i ofalwyr a theuluoedd
- Sblintio i leihau tôn, cyfangiadau a gwella gosodiadau ymarferol
Mae therapyddion hyfforddedig yn asesu unigolion ag anhwylderau ymwybyddiaeth hirdymor. Rydym yn cynnal ystod o asesiadau arbenigol sy’n ceisio nodi ymwybyddiaeth bosibl mewn oedolion sydd â niwed difrifol i’r ymennydd a sefydlu a oes ganddyn nhw unrhyw alluoedd swyddogaethol a chyfathrebu.
Fideos ac adnoddau
Dolenni Defnyddiol
- Fideos ac adnoddau i gleifion ag anafiadau i’r ymennydd
- Adsefydlu ar ôl cael anaf i’r ymennydd: Canllawiau Clinigol Cenedlaethol
- Anhwylderau hir o ymwybyddiaeth yn dilyn anaf sydyn i’r ymennydd: Canllawiau Clinigol Cenedlaethol
- Gwasanaeth cadeiriau olwyn
- Ymwybyddiaeth Alcohol
- Headway
- Rhaglen Atodol Ailadroddol Graddedig y Fraich (GRASP)
Atgyfeiriadau
Mae atgyfeiriadau yn cael eu gwneud drwy’r meddyg ymgynghorol: Dr Andrea Lowman a Dr Ellie Marsh.