Mae’r Nadolig yn ymwneud â’r teulu a mwynhau hwyl yr ŵyl – ac yn aml, llawer o fwyta ac yfed!
Os hoffech chi wneud eich cinio Nadolig ychydig yn iachach, beth am roi cynnig ar yr opsiwn hwn?
Twrci (neu gyw iâr) rhost, tatws rhost, moron a phannas rhost gyda detholiad o lysiau tymhorol, wedi’u gweini gyda saws llugaeron cartref.
Yn Bwydo: 6
Cyfanswm yr Amser Coginio: 2 awr
Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 190°C/170°C neu marc nwy 5.
Paratoi’r twrci/cyw iâr: Sychwch yn dyner, ychwanegwch bupur du at eich dant a phaprica (dewisol).
Stwffiwch gydag oren, lemwn, winwnsyn, garlleg a pherlysiau i gael blas aromatig.
Rhowch y twrci/cyw iâr mewn tun rhostio mawr a gorchuddiwch y frest yn llac â ffoil.
Rhostiwch am tua 1 awr a 50 munud (tua 55 munud fesul kg).
Ar ôl y 30 munud cyntaf, bastiwch y cyw iâr/twrci trwy ddefnyddio llwy i ledaenu’r braster sydd wedi draenio o’r twrci dros ben y rhost. Ailadroddwch hyn ychydig o weithiau wrth goginio.
Tynnwch y ffoil am y 40 munud olaf o goginio i droi’r croen yn frown a chrensiog.
Ar ôl yr amser coginio, gwiriwch a yw’r cig wedi’i goginio – dylai’r tymheredd mewnol gyrraedd 75°C yn rhan fwyaf trwchus y frest – neu gwiriwch fod y sudd yn glir trwy roi cyllell fach yn y goes.
Trosglwyddwch ef i fwrdd torri neu blât a’i orchuddio’n llac â ffoil, gan ganiatáu iddo orffwys am 10 munud cyn torri – mae hyn yn helpu i gadw’r sudd.
Tra bod y twrci/cyw iâr yn gorffwys, gwnewch y grefi yn ôl y cyfarwyddiadau ar y pecyn (os ydych chi’n defnyddio pecyn), neu defnyddiwch y rysáit grefi isod.
Cofiwch unwaith y bydd y cyw iâr/twrci wedi oeri ar ôl ei weini, gallwch chi dynnu unrhyw gig sy’n weddill oddi ar yr esgyrn. Taflwch y croen a gorchuddiwch y cig. Gellir ei gadw yn yr oergell am hyd at 2 ddiwrnod.
Mesurwch 750ml o stoc.
Tynnwch y braster gormodol o’r hambwrdd rhostio (defnyddiwch jwg gwahanu braster/neu codwch y braster gweladwy) a’i gynhesu dros wres canolig.
Gan ddefnyddio llwy bren, ychwanegwch y blawd i wneud pâst.
Ychwanegwch y stoc yn raddol a mudferwch nes bod y saws yn gorchuddio cefn y llwy bren, a’i arllwys i jwg i’w weini.
Fel arall, fel opsiwn haws, defnyddiwch ronynnau grefi sodiwm isel a defnyddio’r dŵr o’r llysiau wedi’u berwi – dilynwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn.
1.2 kg o datws maint canolig wedi’u torri’n chwarteri
1 llwy fwrdd o olew had rêp/olewydd
Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 190°C/200°C
Mewn sosban fawr ar wres uchel, dewch â’r dŵr i’r berw.
Ychwanegwch y tatws a dewch â nhw’n ôl i ferwi’n ysgafn am 5 munud, neu nes bod tu allan y tatws yn dechrau disgyn.
Draeniwch y tatws a gadewch iddynt sefyll am 2 funud.
Cymysgwch y tatws yn yr 1 llwy fwrdd o olew a’u trosglwyddo i dun rhostio poeth.
Dylech eu rhoi yn y ffwrn uwchben y rhost a’u coginio am 60 munud – gan eu troi hanner ffordd.
6 moronen ganolig wedi’u pilio a’u torri’n hanner ar eu hyd
4 panasen wedi’u pilio a’u torri’n hanner ar eu hyd
1 llwy fwrdd o olew had rêp neu olew olewydd
Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 190°C/200°C
Gorchuddiwch y llysiau wedi’u torri mewn 1 llwy fwrdd o olew neu eu brwsio gydag olew.
Ar ôl i’r tatws fod yn y ffwrn am 20 munud, ychwanegwch y moron a’r pannas i’r un tun rhostio â’r tatws. Rhowch y tun nôl yn y ffwrn i goginio am 40 munud.
Os bydd y llysiau’n dechrau gorgoginio cyn y bydd y twrci/cyw iâr yn barod, trosglwyddwch nhw i dun arall a’u dychwelyd i’r ffwrn i ailgynhesu tra bod y cyw iâr yn gorffwys.
350g o bys
350g o ysgewyll – y dail allanol wedi’u tynnu
Hanner bresychen goch fach – wedi’i sleisio
Coginiwch y llysiau mewn ychydig bach o ddŵr am 5 – 8 munud. Fel arall, gallwch goginio’r llysiau yn y ficrodon neu eu stemio.
Offer: Clorian, jwg mesur, sosban
Rhowch y siwgr a’r sudd oren mewn sosban a dewch ag ef i’r berw’n araf er mwyn osgoi ei losgi.
Ychwanegwch y llugaeron a’u mudferwi nes eu bod yn dyner.
Daliwch ati i droi nes bod y cyfan yn tewhau.
Os ydych chi’n ei wneud ymlaen llaw, dylech ei oeri, yna’i storio yn yr oergell mewn cynhwysydd seliedig am 30 diwrnod.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.