Gwasanaeth Cymorth Aron yn Iach

Os ydych chi’n paratoi ar gyfer llawdriniaeth hernia, pen-glin newydd,  clun newydd, goden y bustl neu llawdriniaeth gynaecoleg, mae’r Gwasanaeth Cymorth Aros yn Iach ar gael i chi.

Mae hwn yn wasanaeth newydd a bydd ar gael i bobl sy’n aros am fathau eraill o lawdriniaeth yn y dyfodol.

WAITING WELL SUPPORT SERVICE
02921 841800

Gall aros am lawdriniaeth fod yn amser rhwystredig, yn enwedig os ydych chi’n byw gyda phoen neu’n ceisio rheoli symptomau. Rydym yma i gynnig cymorth a chyngor a gallwn eich cyfeirio at wasanaethau yn y Bwrdd Iechyd a’r gymuned. Os ydych ar restr aros am lawdriniaeth, efallai y byddwch yn derbyn galwad ffôn gan ein tîm.

Gall cymryd rhan weithredol yn y gwaith o gynllunio a pharatoi ar gyfer llawdriniaeth helpu i:

  • wneud i chi deimlo bod gennych fwy o reolaeth
  • osgoi oedi neu ganslo eich llawdriniaeth
  • lleihau’r amser a dreuliwch yn yr ysbyty
  • caniatáu i chi ddychwelyd i normal yn gyflymach

Gallwch baratoi ar gyfer llawdriniaeth trwy wneud yn siŵr bod eich cyflyrau iechyd eraill yn cael eu rheoli’n dda a gwneud newidiadau i’ch ffordd o fyw. Os gallwch chi, llenwch yr holiadur hwn, i’n helpu ni i ddeall eich anghenion iechyd.

WWSS healthy lifestyle welsh version

 

Dilynwch y dolenni ar y dudalen hon am ragor o wybodaeth a all eich helpu i wella eich iechyd a ffitrwydd cyn ac ar ôl llawdriniaeth.

I siarad ag un o'n Cynghorwyr Iechyd a Lles, cysylltwch â ni ar: 

Rhif ffôn: 02921 841800

E-bost: waitingwell.service.cav@wales.nhs.uk

Cadw'n Actif

Mae cadw’n actif tra byddwch chi’n aros am lawdriniaeth yn bwysig i’ch cadw’n iach ac yn gryf. Gall gyflymu eich adferiad ar ôl llawdriniaeth.

Gall symud yn rheolaidd, hyd yn oed gweithgaredd ysgafn fel cerdded neu ymestyn leihau anystwythder, gwella hwyliau, helpu i reoli poen a gwella eich iechyd cyffredinol.

Bydd bod yn actif yn edrych yn wahanol i bawb.

Mae gan ein tudalen Gweithgarwch corfforol ragor o wybodaeth am aros yn gorfforol actif.

Mae gan y cyrsiau Escape Pain ragor o wybodaeth am aros yn gorfforol actif gyda phoen yn y cymalau.

Mae gan y dudalen Heneiddio’n Dda ragor o wybodaeth am gadw’n actif a heneiddio’n dda.

Gall cynnal pwysau iach a bwyta’n dda leihau’r risg o gymhlethdodau yn ystod ac ar ôl llawdriniaeth.Gall bod yn agosach at bwysau iach wneud llawdriniaeth yn fwy diogel, helpu clwyfau i wella’n gynt a lleihau amser eich adferiad.

Gall hefyd eich helpu i deimlo’n well yn gyffredinol. Gall newidiadau bach i’ch arferion bwyta a’ch gweithgaredd wneud gwahaniaeth mawr.

Mae ein tudalennau Deieteg yn cynnwys rhagor o wybodaeth am fwyta’n iach.Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am fwyta’n iach.

Mae ein tudalennau rheoli pwysau yn cynnwys rhagor o wybodaeth am golli pwysau a chynnal pwysau iach.

Mae ein tudalen Bwyta ar gyfer adferiad yn cynnwys rhagor o wybodaeth am hybu eich adferiad os ydych chi o dan bwysau neu os oes gennych ddim chwant bwyd.

 

Gall rhoi’r gorau i smygu neu leihau smygu cyn llawdriniaeth helpu’ch corff i wella’n gynt a lleihau’r risg o gymhlethdodau fel heintiau, problemau anadlu a chlwyfau yn araf yn gwella. Bydd rhoi’r gorau i smygu yn lleihau eich risg o gyflyrau’r galon a’r ysgyfaint, strôc a chanser.

Cliciwch yma am wybodaeth am roi’r gorau i smygu Rhoi’r Gorau i Smygu – Cadw Fi’n Iach

Mae digon o gymorth am ddim ar gael i’ch cefnogi chi, ewch i’r wefan Helpa Fi i Stopio am ragor o wybodaeth neu ffoniwch 0800 085 2219.

Gall lleihau faint o alcohol rydych chi’n ei yfed eich helpu i ymdopi’n well â’r llawdriniaeth a gwella’n gyflymach. Gall yfed llai o alcohol leihau’r risg o gymhlethdodau fel heintiau, a chyflymu’r amser iacháu.

Bydd yfed llai o alcohol hefyd yn lleihau eich risg o amrywiaeth o afiechydon gan gynnwys canser.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth a chymorth ar leihau alcohol.

Mae cael cwsg da cyn llawdriniaeth yn bwysig oherwydd gall leihau straen a phoen. Gall trefn gysgu dda helpu eich corff i ymdopi’n well â’r llawdriniaeth. 

Mae cwsg da yn bwysig i gefnogi eich iechyd a’ch lles hirdymor.

Mae gan ein tudalen cysgu’n dda wybodaeth ac awgrymiadau ar gyfer gwella cwsg.

Mae gan wefan Versus Arthritis wybodaeth am wella cwsg gyda phoen yn y cymalau.

 

Gall paratoi ar gyfer llawdriniaeth fod yn gyfnod llawn straen a phryder. Gall symptomau corfforol sy’n effeithio ar eich corff effeithio ar eich lles meddyliol hefyd. 

Mae gwybodaeth am ymwybyddiaeth ofalgar a lles meddyliol ar gael yma, gan gynnwys dolenni i dechnegau ymlacio.

Mae gan Goleg Brenhinol yr Anesthetyddion wybodaeth am ddelio â phryder cyn llawdriniaeth yma

 

Gall delio â phoen wrth aros am lawdriniaeth fod yn heriol.

Gall cadw’n actif, bwyta’n iach a gwella cwsg a straen i gyd helpu i wella poen.

Mae cwrs poen ESCAPE yn rhad ac am ddim i’w gyrchu ac mae’n helpu pobl i ddelio’n well â phoen yn y cymalau a phoen cefn:

ESCAPE-pain – Cefn – Cadw Fi’n Iach

ESCAPE poen clun a phen-glin

Gwefannau defnyddiol ar gyfer poen pelvig:

Pelvic Pain Support Network | Support, Information and Advocacy for those with Pelvic Pain 

Endometriosis affects one in ten women in Wales – Endometriosis Cymru 

Gwefannau defnyddiol i helpu i ddelio â phoen:

Adnoddau ar gyfer pobl â phoen – Byw’n Dda gyda Phoen

Cyhoeddiadau Cleifion BPS | Cymdeithas Poen Prydain

Tra byddwch chi’n aros am lawdriniaeth, mae’n bwysig sicrhau eich bod yn delio’n dda ag unrhyw gyflyrau iechyd eraill sydd gennych chi. Gall cadw’r rhain dan reolaeth helpu i sicrhau nad yw eich llawdriniaeth yn cael ei chanslo neu ei gohirio a lleihau’r risg o gymhlethdodau. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynychu gwiriadau gyda’ch meddygfa am gyflyrau fel diabetes a phwysedd gwaed uchel.

Mae ein tudalennau diabetes yn cynnwys rhagor o wybodaeth am reoli cyflwr Cyn-ddiabetes a Diabetes Math 2:

Cyflwr Cyn-ddiabetes

Diabetes math 2

WWSS team

Bydd pa mor hir y bydd yn rhaid i chi aros yn dibynnu ar ba lawdriniaeth yr ydych yn ei chael. Rydym yn gweithio i drin pobl cyn gynted â phosibl. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am amseroedd aros ledled Cymru.

 

 

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.