Sesiwn MANAGE BACKS ar gyfer Poen yng Ngwaelod y Cefn
Beth yw MANAGE BACKS
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnig sesiwn o’r enw MANAGE BACKS, gyda’r nod o’ch helpu i reoli poen yng ngwaelod y cefn.
Mae’r rhaglen MANAGE BACKS wedi cael ei datblygu gyda meddygon teulu, llawfeddygon orthopedig, ffisiotherapyddion a phobl fel chi sydd â phoen yng ngwaelod y cefn.

Cyflwynir y sesiwn grŵp 90 munud gan ffisiotherapyddion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig mewn canolfannau hamdden cymunedol.
Mae’r sesiwn MANAGE BACKS yn cynnig cyfle i bobl sydd â phoen yng ngwaelod y cefn:
- ddysgu mwy am y cyflwr,
- darganfod beth mae’r dystiolaeth ymchwil yn ei gefnogi, a
- chlywed am wahanol ffyrdd effeithiol o reoli’r symptomau sy’n gysylltiedig ag ef.
Dulliau gweithredu MANAGE BACKS
Rydym yn gwerthfawrogi bod pobl yn wahanol – rydym yn mwynhau gwahanol bethau a gwahanol nodau mewn bywyd. Yn yr un modd, mae poen cefn yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol felly mae dod o hyd i’r triniaethau neu’r cynllun rheoli cywir i gyd-fynd â’ch anghenion yn bwysig. Gyda MANAGE BACKS rydym yn credu y dylech chi fod yng nghanol penderfyniadau ar sut rydych chi am reoli eich poen cefn. Pan fyddwch chi’n rhan o’r penderfyniadau hyn rydych chi’n fwy tebygol o gymryd rhan yn y driniaeth a chael canlyniad mwy llwyddiannus. Mae MANAGE BACKS yn ymwneud â rhannu gwybodaeth a phrofiadau a fydd yn eich helpu i wneud y penderfyniadau hynny.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gan MANAGE BACKS?
Yn ystod y sesiwn MANAGE BACKS byddwn ni’n:
- rhannu gwybodaeth gyfredol am yr hyn yw, a’r hyn nad yw, poen cefn mecanyddol
- trafod yr wyddoniaeth sy’n dweud wrthym ba driniaethau sy’n ffyrdd diogel ac effeithiol o’i reoli
- rhannu gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael yn lleol i’ch helpu
- eich annog chi ac eraill i rannu eich profiadau o boen yng ngwaelod y cefn, sut mae’n effeithio arnoch chi a’r hyn sydd wedi bod yn effeithiol neu heb fod yn effeithiol yn eich profiad chi.
Erbyn diwedd sesiwn MANAGE BACKS bydd gennych well dealltwriaeth o’r cyflwr, beth rydych chi am ei wneud i’w reoli a sut i fynd ati i gael yr help sydd ei angen arnoch, a allai gynnwys:
- Cynllun ymarfer corff NERs mewn canolfannau hamdden lleol
- Escape Pain Backs
- Ffisiotherapi cleifion allanol
- Rhaglen Gweithredu Rheoli Poen ‘Back in Action’
- Rheoli Ffordd o Fyw
- Coleg Adfer a Lles
- Adnoddau hunanreoli
Sut i gael mynediad at MANAGE BACKS
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig y cyfle i fynychu’r sesiwn drwy atgyfeiriadau meddygon teulu at Ffisiotherapi, llawdriniaethau asgwrn cefn a’r Gwasanaeth Asesu a Thrin Cyhyrysgerbydol Clinigol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu, gofynnwch i’ch meddyg teulu am atgyfeiriad at unrhyw un o’r gwasanaethau hyn.