Patrymau Cerdded (Cerddediad)

Pam mae cerddediad fy mhlentyn yn edrych yn wahanol?

Mae’r rhan fwyaf o blant yn dysgu cerdded pan maen nhw rhwng 12-18 mis.

Er hynny, efallai na fydd patrwm cerdded nodweddiadol, fel cerddediad oedolyn, yn datblygu’n llawn nes bydd plentyn yn 7-9 oed.

Efallai y byddwch chi’n sylwi bod cerddediad eich plentyn yn newid llawer yn ystod y cyfnod hwn. Mae llawer o’r newidiadau hyn yn rhan o ddatblygiad arferol cerddediad plentyn wrth i esgyrn a chyhyrau dyfu a datblygu. Does dim angen pryderu am y newidiadau fel arfer.

Amrywiadau cyffredin i gerddediad arferol

Genu Varum ‘Coesau Ceimion’

Os yw eich plentyn yn sefyll gyda’i draed a’i bigyrnau gyda’i gilydd ond ei bengliniau ar wahân, mae ganddo Genu Varum. Mae hyn yn gyffredin iawn pan fydd plant yn dechrau cerdded. Fel rheol, bydd yn gwella ar ei ben ei hun pan fydd eich plentyn rhwng 2 a 3 oed a does dim angen unrhyw driniaeth fel arfer

Genu Valgum ‘Pengliniau Ceimion'

Os yw pengliniau eich plentyn gyda’i gilydd ond y traed a’r pigyrnau ar wahân, mae ganddo Genu Valgum. Yn aml, mae ‘pengliniau ceimion’ yn datblygu ychydig yn ddiweddarach fel arfer, pan fydd plentyn rhwng 3 a 5 oed ond mae’n gallu bod yn gyffredin hyd at 8 oed. Fel arfer, mae’n gwella ar ei ben ei hun wrth i blentyn dyfu a does angen triniaeth ar ei gyfer.

Os yw eich plentyn yn gloff ac yn datblygu unrhyw un o’r symptomau canlynol, dylech chi ffonio 111 ar frys a bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn penderfynu a oes angen gofal brys ar eich plentyn.

  • Poen sydyn yn y glun, y forddwyd neu ben-glin
  • Methu rhoi dim pwysau o gwbl ar y goes wrth sefyll neu gerdded
  • Y goes wedi newid ei siâp neu’n cyfeirio at ongl ryfedd
  • Teimlo’n anhwylus gyda thymheredd uchel, teimlo’n boeth ac yn crynu
  • Poen difrifol yng ngwaelod y bola
  • Symptomau sy’n gwaethygu

Hunangymorth

Pryd ddylwn i ofyn am ragor o gymorth?

Does dim angen triniaeth ar y rhan fwyaf o amrywiolion cerddediad arferol a byddan nhw’n gwella ar eu pennau eu hunain wrth i’ch plentyn fynd yn hŷn.

Siaradwch â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os yw eich plentyn yn cael poenau yn ei goesau, yn cael trafferth neu’n methu â gwneud ei weithgareddau arferol neu os yw ei batrwm cerdded yn gwaethygu gydag amser.

Bydd gwisgo esgidiau sy’n ffitio’n dda ac sy’n cynnal y traed yn helpu i gefnogi datblygiad cerddediad arferol eich plentyn.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.