Gweithgaredd corfforol ar gyfer pobl ag anableddau a namau

  • Oes gennych chi anabledd?
  • Ydych chi’n awyddus i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol?

Os felly, y Llwybr Gweithgareddau Anabledd Iechyd yw’r lle i chi.

Swimming with a disability

Beth yw'r Llwybr Gweithgaredd Anabledd Iechyd?

Mae hon yn fenter ledled Cymru sy’n cefnogi pobl anabl i fod yn fwy egnïol yn gorfforol. Mae’n ei gwneud hi’n hawdd i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gyfeirio pobl anabl at gyfleoedd chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn y gymuned leol.

Ar gyfer pwy mae’r Llwybr Gweithgaredd Anabledd Iechyd?

Mae ar gyfer unrhyw un – oedolion a phlant o bob oed – sydd ag anableddau a namau.

Gwyliwch sut mae cymryd rhan mewn criced wedi bod o fudd i Matthew mewn sawl ffordd.

James

Mae James wedi cymryd rhan mewn chwaraeon erioed. Roedd yn hyfforddwr pêl-droed gweithgar gyda thimau iau Abergele a Bae Colwyn, ac arweiniodd Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones i Dlws Ifor Tuck ym 1977.

Oherwydd ei gysylltiadau â phêl-droed lleol, roedd ei fab hynaf Bruce yn chwarae i Ddinas Bangor yn erbyn Atlético Madrid yng Nghwpan Enillwyr y Cwpan, dechreuodd e chwarae golff yn hwyr yn 2008. Cwympodd e mewn cariad â’r gamp ac yn fuan iawn enillodd Bencampwriaeth Chwaraewyr Proffesiynol yng Nghlwb Golff Gogledd Cymru.

Roedd James yn ddigon ffodus i gael ei ethol yn Gapten y Dynion yn 2013 ond wythnos i mewn i’w gapteniaeth, cafodd e strôc tra ar y cwrs ar ôl taro dim ond un ergyd ar y ti cyntaf. Cafodd James ei gludo i Ysbyty Llandudno gan weithiwr proffesiynol y clwb ac yna’i drosglwyddo i Ysbyty Glan Clwyd. Er bod James yn mynd i gael ei anfon adref o’r ysbyty’r diwrnod wedyn, cafodd strôc arall ac o ganlyniad roedd ochr chwith ei gorff wedi’i pharlysu

“Ges i fy llorio. Roeddwn i’n meddwl bod fy nyddiau golff drosodd gan nad oeddwn i’n gallu eistedd i fyny.” Ar ôl tua phum mis, dechreuodd James symud ei goesau dan arweiniad ei ffisiotherapydd, Leigh Campbell, a gyda sblint wedi’i osod ar ei goes dechreuodd e chwarae golff ar y Wii. Ar ôl gweld llygaid James yn goleuo wrth chwarae golff ar y Wii awgrymodd Leigh y dylid cysylltu â’r Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru lleol drwy’r bartneriaeth a gafodd ei sefydlu rhwng Chwaraeon Anabledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Rhoddodd cyfarfod â Marc, Swyddog Chwaraeon Anabledd Cymru Conwy, lygedyn o obaith i mi a dywedais wrth bawb amdano. Cyn hynny roeddwn i mor ddigalon na fyddwn i’n gallu chwarae golff eto, roeddwn i hyd yn oed wedi rhoi fy mhytiwr i rywun arall.

“Yr hyn sy’n fy mrifo yw fy mod i’n edrych dros gwrs golff o fy ystafell fyw – mae’n chwerw felys ond mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi rhoi’r gobaith i mi y bydda i’n rhan o’r olygfa honno unwaith eto. Ges i’r dewis o wahanol chwaraeon ond roeddwn i eisiau rhoi cynnig ar golff gan ‘mod i’n angerddol am y gêm. Efallai y bydd yn cymryd tipyn go lew o amser, ond bydda i’n llwyddo yn y pen draw. Mae wedi rhoi nod cyraeddadwy i mi, nid un afrealistig, gan fod chwaraeon yn teimlo fel petai’n filiwn o filltiroedd i ffwrdd pan oeddwn i’n gorwedd yn fy ngwely yn yr ysbyty.

Cadwodd Marc mewn cysylltiad â Datblygu Golff Cymru a Chlwb Golff Conwy a gweithion nhw ar y cyd i sefydlu digwyddiad golff cynhwysol.

“Cyn hynny, roeddwn i’n nerfus iawn ac yn ansicr am gymryd rhan ond rydw i mor falch ‘mod i wedi gwneud hynny. Roedd Kim ac Andy’n gefnogol iawn a siaradodd Kim â mi am addasu fy ngafael ar y clwb. Roedd pawb mor gefnogol a doedden nhw ddim yn gweld yr anabledd, dim ond y gamp, ac roeddwn i eisiau bod yn rhan o hynny. Roedd arbenigedd Andy yn ddefnyddiol ac es i nôl adref ar ben y byd – roedd bod ar gwrs golff unwaith eto yn deimlad mor braf.

“Mae golff wedi rhoi fy mywyd yn ôl i mi. Mae wedi rhoi ysgogiad i mi ac wedi fy ngwneud yn fwy penderfynol o barhau â’r adferiad, ac oni bai ‘mod i wedi gwneud hynny, fyddwn i ddim wedi gallu sefyll. Pan oeddwn i’n cael sesiynau adfer roeddwn i’n arfer cyfri pa mor hir o’n i’n gallu sefyll a bydden i’n cyffroi petawn i’n sefyll am 30 eiliad – rwan rwy’n gallu sefyll am 10 munud ac mae rhaglenni Chwaraeon Anabledd Cymru wedi rhoi’r cymhelliant i mi wneud mwy. Pe na bai Chwaraeon Anabledd Cymru wedi sefydlu hyn byddwn i’n eistedd yn fy nghadair, ond rwan dw i hyd yn oed wedi dechrau defnyddio fy ffon gerdded fel clwb golff i ymarfer!

“Dywedodd fy ngwraig ‘mod i hyd yn oed yn gwisgo fel golffiwr eto. Dw i’n gwisgo crys llewys hir am y tro cyntaf ers misoedd a dw i’n eistedd yma bob dydd yn gweithio fy llaw gan wybod y bydd yn helpu fy ngafael golff a gwella fy llaw hyd yn oed yn fwy. Fy nod i rwan ydy nid yn unig chwarae golff ond chwarae golff cystadleuol yn erbyn pobl nad ydyn nhw’n anabl.”

Matthew swimming

Cafodd Matthew ei gyfeirio at Nofio Anabledd a Chlwb Pêl-droed Brickfield Rangers gan Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru, Wrecsam.

Mae Matthew wedi cael diagnosis o Nam Iaith Penodol ac ar hyn o bryd mae’n cael ei asesu ar gyfer ADHD, Awtistiaeth, ac Anhwylder Prosesu Synhwyraidd.

Roedd Lynn, mam Matthew, yn awyddus iddo ddechrau nofio gan fod diogelwch dŵr yn sgìl bywyd, a dewisodd Matthew chwarae pêl-droed.

Dechreuodd Matthew mewn sesiynau nofio un i un i ddechrau ac ar ôl chwe wythnos symudodd i sesiynau grŵp i blant dan 8 yn Wrecsam.

Mae Matthew wedi ofni dŵr ers yn ddwy oed. O fewn y chwe wythnos gyntaf aeth Matthew o beidio gadael yr ystafelloedd newid ac eistedd ar ochr y pwll i neidio i mewn a nofio lled y pwll ar ei ben ei hun gyda wogl.

Mae Lynn mor falch o’r hyn mae Matthew wedi’i gyflawni. “Does dim geiriau i ddisgrifio pa mor falch o Matthew dw i’n teimlo pan mae o yn y dŵr; pan ddechreuodd o, roedd o’n sgrechian a chrio a ac yn cydio’n dynn ynof i, ac roedd o mor ypset. Rwan mae’n gallu cerdded ar hyd ochr y pwll ar ei ben ei hun, neidio i’r dŵr ar ei ben ei hun, mynd o dan y dŵr a hynny heb gynhyrfu, ac mae’n cicio ei goesau a nofio, mae’n anhygoel!”

Doedd Rob, tad Matthew, ddim wedi ei weld yn nofio ers iddo ddechrau ei sesiynau nofio ac roedd Matthew yn hapus iawn i ddangos ei hyder newydd yn y dŵr i Dad. Mae’n methu aros i fynd i nofio mewn gwahanol lefydd nawr, ac mae Lynn a Rob yn gobeithio mynd â Matthew i bwll gwahanol fel ei fod yn gallu nofio gyda’i deulu dros yr haf.

Mae Matthew yn caru pêl-droed; ‘Pêl-droed ydy’n ffefryn i’. Mae Rob yn mynd â Matthew i Glwb Pêl-droed Brickfield Rangers bob dydd Iau i’w sesiwn iau sy’n benodol ar gyfer plant ag anableddau.

Meddai Rob: “Mae’r hyfforddwyr yn wych, maen nhw’n addasu’r sesiwn er mwyn cwrdd ag anghenion Matthew, ac maen nhw’n gadael iddo sgorio gôl.” Mae Matthew wedi gwneud ffrindiau yn y sesiwn ac maen nhw’n rhoi pawen lawen iddo fo pan mae o’n sgorio.

Meddai Matthew, “Dw i’n mwynhau cicio’r bêl a sgorio goliau”.

Mae Brickfield Rangers yn amgylchedd gwych i Matthew ac er iddi gymryd amser iddo ddod i arfer â phêl-droed, mae bellach wrth ei fodd!

Mae Lynn a Rob wedi gweld gwahaniaeth enfawr yng ngallu, hyder a mwynhad Matthew o chwaraeon. Dywedodd Leanne, Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru Wrecsam, “Rydw i wedi bod yna ers y diwrnod cyntaf pan ddechreuodd Matthew nofio ac mae wedi datblygu’n sylweddol dros y 15 wythnos ddiwethaf. Mae ganddo hyder newydd yn y dŵr a rwan mae’n mwynhau nofio.”

Mae Lynn yn falch iawn o’r gefnogaeth mae Matthew wedi’i chael nid yn unig gan yr hyfforddwyr pêl-droed a’r hyfforddwr nofio, ond gan Leanne hefyd.

“Roeddwn i’n meddwl ei fod yn wych gan ei bod hi’n deall o ble roedden ni’n dod gyda Matthew a’r hyn roedden ni’n mynd drwyddo. Roedd hi’n helpu cymaint ac oni bai am Leanne yn rhoi’r sesiynau i ni, fyddai Matthew ddim lle mae o ar hyn o bryd gyda nofio a phêl-droed”.

“Mae Matthew’n weithgar iawn a bob amser yn llawn egni, ac rydyn ni wedi rhoi cynnig ar glybiau chwaraeon yn y gorffennol ond doedd o ddim yn gallu para’n ddigon hir i ganolbwyntio a gwrando oherwydd ei anableddau a doedd yr hyfforddwyr ddim yn gallu ei ddeall. Ond erbyn hyn gyda nofio a phêl-droed mae wedi dod allan o’i gragen ac mae’n mwynhau ac yn dysgu. Mae ei wyneb yn goleuo pan fydd o’n cyflawni rhywbeth newydd.”

Sut i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn

Cael gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i’ch cofrestru

Os ydych chi mewn cysylltiad rheolaidd â gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a bod gennych ddiddordeb mewn bod yn egnïol yn gorfforol, mae’n bosibl i’ch clinigwr eich cyfeirio’n uniongyrchol at y Llwybr Gweithgareddau Anabledd Iechyd. Efallai y byddan nhw’n awgrymu’r llwybr hwn i gefnogi eich ymyriadau clinigol parhaus hefyd.

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.