Y Tîm Adnoddau Cymunedol
Mae’r rhan fwyaf ohonon ni eisiau byw yn annibynnol yn ein cartrefi ein hunain. Weithiau, efallai ar ôl aros yn yr ysbyty, damwain neu salwch, neu hyd yn oed ar ôl newid yn eich amgylchiadau cymdeithasol, bydd angen ychydig o help arnoch chi i aros yn annibynnol.
Efallai bydd y Tîm Adnoddau Cymunedol (CRT) yn gallu helpu.

Beth yw’r Tîm Adnoddau Cymunedol?
Mae’r Tîm Adnoddau Cymunedol yn wasanaeth ar y cyd sy’n cael ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chyngor Caerdydd. Rydyn ni’n darparu cymorth i oedolion 18 oed a hŷn sy’n byw yng Nghaerdydd.
Mae’r tîm yn cynnwys:
Staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Therapyddion Galwedigaethol
- Ffisiotherapyddion
- Deietegwyr
- Nyrsys
- Therapyddion Iaith a Lleferydd
Staff Cyngor Caerdydd
- Rheolwyr Gofal Cartref
- Cydlynwyr Gofal Cartref
- Gweithwyr Gofal yn y Cartref
Gall y Tîm Adnoddau Cymunedol eich cefnogi i adennill eich hyder, eich annibyniaeth a’ch galluogi i aros gartref ac ymwneud â’ch cymuned leol. Rydyn ni’n sicrhau eich bod yn derbyn yr ymyrraeth gywir ar yr adeg gywir, gan y gweithiwr proffesiynol cywir. Mae’n symleiddio’r broses drwy gydlynu anghenion iechyd a gofal cymdeithasol.
Rydym yn anelu at:
- Osgoi derbyniadau diangen i’r ysbyty
- Eich helpu chi i fod mor annibynnol â phosibl
- Eich helpu i beidio gorfod symud yn gynamserol i ofal preswyl parhaol
- Oedi/lleihau’r angen am ofal a chymorth hirdymor
Beth mae’r Tîm Adnoddau Cymunedol yn ei ddarparu?
Mae’r tîm gofal yn gallu darparu galwadau dyddiol i’ch helpu gyda gofal personol e.e. cael bath, cawod, gwisgo/dadwisgo, paratoi byrbrydau neu brydau a diodydd sylfaenol, a lle bo hynny’n berthnasol eich cynorthwyo gyda’ch meddyginiaeth. Mae hyn ochr yn ochr â’n tîm o Therapyddion a Nyrsys a fydd yn asesu eich anghenion a’ch nodau, gan weithio gyda chi i ddatblygu rhaglen ail-alluogi er mwyn gwneud y gorau o’ch annibyniaeth.

Byddwn ni’n adolygu eich cynnydd drwy gydol y rhaglen gan wneud yn siŵr ein bod ar y trywydd iawn i gyrraedd eich nodau neu benderfynu gyda chi a oes angen cefnogaeth hirdymor arnoch chi. Yna byddwn yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar ba ddewisiadau sydd ar gael i chi.
Mae’r rhaglen yn gallu para ychydig ddyddiau hyd at ychydig wythnosau. Fel arfer ni fydd yn para mwy na 6 wythnos ar gyfer cymorth gofalwyr, er y gall Therapi bara’n hirach os oes angen. Os byddwn yn meddwl ei bod yn annhebygol y bydd angen y 6 wythnos lawn arnoch chi i gyrraedd y nodau y cytunwyd arnyn nhw, bydd hyn yn cael ei drafod gyda chi a bydd y gwasanaeth yn cael ei leihau/dod i ben fel y bo’n briodol.
Byddwch yn elwa o’r gwasanaeth:
- Os ydych chi’n awyddus i ddychwelyd neu barhau i fyw gartref
- Os ydych chi angen cefnogaeth neu wybodaeth / offer i adennill neu wella eich sgiliau byw dyddiol
- Os oes gennych chi’r potensial i wella eich sgiliau byw bob dydd yn dilyn cyfnod byr ond dwys o gymorth
- Os ydych chi’n sefydlog yn feddygol
- Os ydych chi wedi cael damwain, cyfnod o salwch neu arhosiad yn yr ysbyty
Atgyfeiriadau
Fel arfer, mae mynediad i’r gwasanaeth drwy atgyfeiriad gan weithiwr gofal cymdeithasol neu weithiwr iechyd proffesiynol. Gall hyn fod oherwydd eich bod wedi bod yn yr ysbyty ac angen cefnogaeth i ddychwelyd adref yn annibynnol neu’n byw yn y gymuned ac yn cael trafferth gartref.