Mae’r gaeaf yn golygu dyddiau byrrach, tywydd oerach a phwysau ychwanegol a all weithiau wneud i ni deimlo’n flinedig neu wedi ein llethu. Yn ystod yr amser hwn, gall fod yn ddefnyddiol cael rhai syniadau ac arferion cefnogol i droi atynt.
Mae Seicolegwyr Clinigol yng Ngwasanaeth Byw’n Dda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi paratoi rhai awgrymiadau ysgafn ac ymarferol i’ch helpu i gadw mewn cysylltiad, gofalu am eich lles a dod o hyd i adegau o gysur a chydbwysedd drwy’r misoedd oerach:
Gall y gaeaf amharu ar eich ymdeimlad o lif, felly gall bod â threfn ddyddiol hyblyg eich helpu i deimlo’n sefydlog. Nid oes angen iddo eich rhoi chi dan bwysau; gall deffro tua’r un amser, agor y llenni, neu ddewis un ffocws bach ar gyfer y diwrnod ddod ag ychydig o sefydlogrwydd, hyd yn oed ar ddiwrnodau pan fydd eich lefelau egni’n isel.
Gall golau dydd godi eich hwyliau a chefnogi cloc naturiol eich corff. Os yw bod y tu allan yn teimlo’n bosibl, gall taith gerdded fer neu ychydig funudau yn yr awyr agored fod yn iachusol. Os na, mae eistedd ger y ffenestr, agor y llenni’n gynnar neu adael awyr iach i mewn am eiliad yn dal yn gallu’ch helpu i deimlo cysylltiad â’r byd y tu allan.
Nid oes rhaid i symud fod yn llafurus i fod yn werthfawr. Gall ymestyn ac ymarferion symudedd ysgafn leddfu tensiwn a chefnogi eich lles. Ar ddiwrnodau pan fydd gennych fwy o egni, gall fynd am dro deimlo’n dda ond mae symudiadau bach, ysgafn yr un mor bwysig.
Gall estyn allan at eraill ddod â chynhesrwydd yn ystod y misoedd oerach, hyd yn oed mewn ffyrdd bach. Gall neges, nodyn llais, neu alwad ffôn fer eich atgoffa nad ydych chi ar eich pen eich hun. Nid oes rhaid i gysylltu fod yn ddigwyddiadau cymdeithasol nac yn sgyrsiau hir; mae’r eiliadau bach o gyswllt yn bwysig hefyd.
Mae’r gaeaf yn ein gwahodd i arafu a chwilio am gysur. Gall goleuadau meddal, dillad cynnes, hoff arogleuon, blancedi clyd neu ddiodydd poeth i gyd helpu’ch meddwl a’ch corff i ymlacio. Dewiswch beth bynnag sy’n eich helpu i deimlo’n ddiogel, yn dawel eich meddwl ac wedi’ch cefnogi.
Gall eiliadau bach o fwynhad oleuo diwrnod gaeafol. Mae gwrando ar gerddoriaeth, gwylio un o’ch hoff raglenni, crefftio, rhoi cynnig ar rysáit newydd neu fwynhau llyfr sain i gyd yn ffyrdd o ddod ag ysgafnder. Gall pocedi bach o lawenydd wneud gwahaniaeth mawr i’n lles.
Mae hunandosturi yn golygu cynnig yr un ddealltwriaeth ac amynedd i chi’ch hun ag y byddech chi’n ei roi i ffrind. Gall y gaeaf deimlo’n drwm, yn enwedig os nad oes gennych lawer o egni, felly ceisiwch siarad yn garedig â chi’ch hun, cymryd eich amser, a gadael fynd ar y pwysau i “fwrw ymlaen”. Nid yw gorffwys yn golygu methu, mae’n golygu gofalu amdanoch chi’ch hun. Rhowch le i’ch teimladau a rhowch ganiatâd i chi’ch hun wneud pethau yn y ffordd sy’n teimlo’n iawn i chi.
Mae cynhesrwydd, maeth a gorffwys yn arbennig o bwysig yn ystod y gaeaf. Bwytewch brydau cytbwys sy’n teimlo’n gysurus, yfwch ddigon o ddŵr, a chymerwch ran mewn gweithgareddau hunanofal ysgafn sy’n helpu’ch corff a’ch meddwl i orffwys e.e. cael bath cynnes. Blaenoriaethwch gwsg a, lle bo modd, caniatewch unrhyw orffwys ychwanegol y mae eich corff yn gofyn amdano.
Gall ymwybyddiaeth ofalgar fod mor syml â defnyddio’ch synhwyrau i roi sylw i un manylyn bach e.e. teimlad blanced gynnes, sŵn y tegell, lliw’r awyr. Gall cymryd hyd yn oed eiliad i sylwi ar rywbeth lleddfol helpu i dawelu eich meddwl. Gall blwch cysur bach gydag eitemau sy’n eich llonyddu hefyd ddarparu tawelwch meddwl pan fydd ei angen arnoch chi.
Gall cadw dyddiadur eich helpu i roi trefn ar eich meddyliau, neu gydnabod pethau rydych chi’n ddiolchgar amdanynt. Nid oes angen i’r hyn rydych chi’n ei ysgrifennu fod yn fanwl, gall hyd yn oed un frawddeg neu ychydig eiriau helpu. Defnyddiwch eich dyddiadur i fyfyrio neu fynegi sut rydych chi’n teimlo. Gall gwneud rhestrau byr helpu gyda chynllunio a blaenoriaethu’r pethau sydd angen eu gwneud a’ch helpu chi i deimlo’n fwy sefydlog. Gall hyn fod yn ffordd o gefnogi eich hun yn y dyfodol, nid i ychwanegu disgwyliadau.
Rydych chi’n haeddu cefnogaeth. Mae estyn allan at rywun rydych chi’n ymddiried ynddo, gwasanaeth cymorth, neu weithiwr iechyd proffesiynol yn weithred o ofal, nid gwendid. Gall arbed rhifau neu gysylltiadau defnyddiol lle gallwch ddod o hyd iddynt yn hawdd wneud i ofyn am gymorth deimlo’n llai llethol pan fydd pethau’n anodd.
Gallwch gysylltu â’ch meddyg teulu i gael cymorth gyda’ch iechyd meddwl neu gorfforol, hyd yn oed os nad ydych chi’n siŵr beth sydd ei angen arnoch chi eto. Os ydych chi’n teimlo bod angen cymorth ar frys, gallwch ffonio GIG 111 Cymru a phwyso 2 i siarad yn uniongyrchol â gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol sy’n gallu cynnig arweiniad a chefnogaeth.
Os yw’n well gennych siarad yn ddienw neu y tu allan i oriau arferol, mae cymorth tosturiol ar gael trwy linellau cymorth fel Y Samariaid (116 123) a Shout (tecstiwch SHOUT at 85258).
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.