Mae FaME yn rhaglen ymarfer corff y dangosir ei bod yn gwella cryfder, cydbwysedd a sefydlogrwydd. Fe’i cyflwynir gan hyfforddwyr ymarfer corff cymwysedig arbenigol mewn grwpiau bach, ac mae’r dosbarthiadau wedi’u teilwra i alluoedd unigolion.
Mae’r rhaglen yn rhedeg unwaith yr wythnos am 24 wythnos, ac mae unigolion yn symud ymlaen yn ystod y rhaglen i ddatblygu eu cryfder, bod â mwy o hyder a theimlo’n fwy sefydlog ar eu traed.
Cyflwynir rhaglenni FaME mewn lleoliadau cymunedol, ac maent yn ffordd wych o gymdeithasu ag eraill mewn grŵp bach.
Codir tâl wythnosol bychan am fynychu rhaglen FaME, sy’n daladwy i’r hyfforddwyr ymarfer corff sy’n cyflwyno’r cwrs.
Gallwch gael mynediad i raglen FaME os ydych yn byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, yn 65 oed neu’n hŷn ac yn gallu ateb ‘ydw’ i unrhyw un o’r canlynol:
Os hoffech chi gymryd rhan yn FaME a gwella eich cryfder a’ch cydbwysedd trwy ymarfer corff wedi’i deilwra, dyma beth fydd yn ei olygu:
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn rhaglen FaME, cysylltwch â gareth.elderfit@gmail.com neu 07731 382 224.
Os ydych chi’n addas ar gyfer y rhaglen, byddwn yn cysylltu â chi am asesiad manylach.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.