Mae’r Gwasanaeth Asesu Gofal yr Henoed (ECAS) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn rhoi cymorth cynnar i bobl sydd mewn perygl oherwydd bod eu hiechyd yn dirywio. Gall cymorth cynnar alluogi pobl i aros gartref yn hytrach na mynd i’r ysbyty.
Mae’r Gwasanaeth Asesu Gofal yr Henoed yn darparu asesiadau amlddisgyblaeth (sy’n golygu y gall gynnwys meddygon, staff nyrsio, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion) i bobl hŷn sy’n byw yn y gymuned. Yn aml mae person hŷn yn cael ei gyfeirio gan ei feddyg teulu.
Wrth ystyried sut i helpu i alluogi pobl i fyw’n ddiogel gartref, bydd y therapydd galwedigaethol yn y tîm yn asesu:
Mae asesiadau yn gallu cynnwys ymolchi, gwisgo, coginio, mynediad i eiddo/ystafelloedd, diogelwch a dealltwriaeth gyfredol.
Fel arfer, bydd y therapydd neu’r technegydd galwedigaethol yn ymweld â’r person gartref i ddeall ei sefyllfa’n well. Maen nhw’n gallu dangos technegau i helpu gydag annibyniaeth, rhoi cyngor, darparu offer neu gyfeirio at wasanaethau eraill o fewn Caerdydd a’r Fro, gyda’r nod tymor hwy o wella annibyniaeth.
Cysylltwch â’ch meddyg teulu i gael eich atgyfeirio at y Gwasanaeth Asesu Gofal yr Henoed.
Ysbyty dydd adsefydlu ar gyfer cleifion ag ystod eang o gyflyrau yw Ysbyty Dydd. Y ffocws yw adsefydlu, adfer ac atal derbyniadau i’r ysbyty.
Mae Ysbyty Dydd yn cael ei redeg gan dîm, sy’n cynnwys meddygon, staff nyrsio, therapyddion galwedigaethol a ffisiotherapyddion. Rydyn ni’n eich helpu i reoli eich cyflwr o’r diagnosis drwy ddatblygiad y salwch, gydag adolygiadau rheolaidd pan fo angen.
Mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio gydag unigolion i ymdrin â materion sy’n effeithio ar eu ffordd o fyw. Mae’r rhain yn cynnwys lleihau risgiau cwympo, delio â gorbryder, datblygu strategaethau cofio, hylendid cwsg a rheoli blinder.
Mae amrywiaeth o anawsterau cyffredin i’n cleifion isod a ffyrdd o reoli’r rhain. Cliciwch ar y rhai sy’n berthnasol i chi:
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.