Mae Ward Sam Davies yn ward adsefydlu ar gyfer cleifion sy’n byw ym Mro Morgannwg.
Fel arfer, mae pobl sy’n cael eu derbyn i’r ward dros 65 oed ac yn cael eu trosglwyddo pan fyddant yn feddygol sefydlog ar gyfer adsefydlu o wardiau yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, Ysbyty Athrofaol Cymru ac ysbytai tu allan i’r ardal.
Mae’r Therapyddion Galwedigaethol yn gweithio gyda phobl sydd ag ystod eang o gyflyrau meddygol gan gynnwys dementia, namau gwybyddol neu gyflyrau cronig eraill, yn ogystal â’r rhai sydd angen gofal diwedd oes.
Fel gwasanaeth adsefydlu ein nod yw atal pobl rhag colli’r gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol neu golli sgiliau gwybyddol, gan anelu at gynyddu annibyniaeth ac ailgyflwyno arferion a rolau dyddiol er mwyn i bobl gael gadael yr ysbyty yn ddiogel a llwyddiannus.
Rydyn ni’n gallu darparu cymhorthion ac offer ar ôl asesu ac rydyn ni’n gallu cyfeirio pobl at wasanaethau cymunedol i gael cefnogaeth barhaus ac adsefydlu ar ôl cael eu rhyddhau o’r ysbyty.
Er mwyn ein helpu ni i’ch helpu chi, neu eich anwyliaid, pan fyddwch ar Ward Sam Davies, mae’n ddefnyddiol dod â’r eitemau canlynol gyda chi:
Mae amrywiaeth o anawsterau cyffredin i’n cleifion a ffyrdd o reoli’r rhain isod. Cliciwch ar y rhai sy’n berthnasol i chi:
Proses atgyfeirio:
Mae therapyddion galwedigaethol yn darparu gwasanaeth pum niwrnod i’r ward (dydd Llun i ddydd Gwener). Mae’r therapydd galwedigaethol yn ystyried pob person sy’n cael ei drosglwyddo i Ward Sam Davies a lefel y mewnbwn therapi galwedigaethol sydd ei angen.
Cyfeiriad: Ysbyty Cymunedol y Barri, Heol Colcot, Y Barri, CF62 8YH
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.