Mae’r Tîm Therapi Galwedigaethol mewn Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Hŷn wedi’i leoli mewn ysbytai, gwasanaethau cymunedol a chartrefi gofal ledled Caerdydd a’r Fro.
Mae’r tîm yn gweithio gydag unigolion sydd â dementia, iselder, gorbryder a phroblemau iechyd meddwl hirdymor er mwyn goresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag gwneud y galwedigaethau (neu’r gweithgareddau) sy’n bwysig iddyn nhw.
Drwy weithio gyda’r therapyddion galwedigaethol unigol (a theuluoedd neu ofalwyr) mae’n nodi meysydd ym mywyd unigolyn lle mae angen cymorth neu ymyriadau gyda’r nod o gynyddu ymdeimlad o les a gwella ansawdd bywyd.
Mae amrywiaeth o anawsterau cyffredin i’n cleifion isod a ffyrdd o reoli’r rhain. Cliciwch ar y rhai sy’n berthnasol i chi:
Atgyfeiriadau
Os bydd angen asesiad ffurfiol, gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg teulu er mwyn cael eich cyfeirio at ein tîm.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.