Mae Tîm Therapi Galwedigaethol Ysbyty Dewi Sant yn darparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar draws tair ward feddygol: wardiau Rhydlafar, Lansdowne ac Elizabeth.
Mae unigolion sy’n cael eu derbyn i’r wardiau fel arfer dros 65 oed ac yn cael eu derbyn ar gyfer adsefydlu cleifion mewnol o ysbytai eraill pan fyddant yn sefydlog yn feddygol.
Rydym yn gweithio gydag unigolion ag ystod amrywiol o gyflyrau meddygol gan gynnwys cyflyrau cronig, dementia a nam gwybyddol yn ogystal â’r rhai sydd angen gofal diwedd oes. Fel gwasanaeth adsefydlu ein nod yw atal dirywiad mewn iechyd a gweithgareddau bywyd bob dydd, cynyddu annibyniaeth ac ailgyflwyno arferion a rolau dyddiol.
Rydym yn gallu rhoi cymhorthion ac offer yn dilyn asesiad arbenigol a gallwn atgyfeirio i wasanaethau cymunedol ar gyfer adsefydlu parhaus a chymorth ar ôl rhyddhau.
Atgyfeirio: Gwneir atgyfeiriadau i’r tîm gan aelodau tîm amlddisgyblaethol pan fo unigolyn yn glaf mewnol yn Ysbyty Dewi Sant.
Cyfeiriad:
Ysbyty Dewi Sant, Cowbridge Road East, Treganna, Caerdydd, CF11 9XB
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.