Tîm Trawsblannu Gwaed a Mêr Esgyrn / Therapi CAR-T

Mae’r Tîm Trawsblannu Gwaed a Mêr Esgyrn yn wasanaeth rhanbarthol sy’n gweithio yn yr ysbyty ac yn y gymuned. Mae’r tîm wedi’i leoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Ein nod yw darparu cefnogaeth ymarferol i bobl sy’n mynd drwy drawsblaniad mêr esgyrn neu therapi celloedd CAR-T. Rydyn ni’n gweithio’n agos gydag ymgynghorwyr, ffisiotherapyddion, therapyddion lleferydd ac iaith, dietegwyr, fferyllwyr ac amrywiaeth o nyrsys arbenigol. Rydyn ni’n darparu gwasanaeth adsefydlu canser cynhwysfawr cyn, yn ystod ac ar ôl triniaeth.

Rydyn ni’n gwybod bod diagnosis a thriniaeth canser yn brofiad bywyd llawn straen ac mae’n gallu cael effaith sylweddol arnoch chi. Efallai y byddwch chi’n cael trafferth gyda symptomau gorbryder ac iselder yn ogystal ag anawsterau corfforol.

Cliciwch ar y botymau isod i gael gwybodaeth ddefnyddiol am faterion y gallech chi fod yn eu profi.

Gwarchod eich egni

Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol

Rheoli tasgau bob dydd

(HoliSARA – Cyngor Caerdydd)

Manylion Cyswllt

Ffoniwch linell gymorth canser Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: 02920 745655
Ar gael o 9:00am i 12:30pm a 1:30pm i 4:00pm

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content