Cymorth i ffrindiau a theulu -gofal critigol

Gall cael ffrind neu berthynas sy’n derbyn gofal critigol fod yn brofiad dirdynnol iawn. Bydd pobl yn ymateb yn wahanol i anwylyd sy’n ddifrifol wael. Mae llawer yn dweud eu bod yn ei chael yn anodd rheoli eu hemosiynau, ac yn teimlo’n ofnus ac wedi’u cynhyrfu’n hawdd. Efallai eu bod yn awyddus i fod gyda’u hanwyliaid ac eisiau gwybod cymaint ag y gallant am eu gofal. Gallant hefyd arddangos symptomau corfforol straen, megis tensiwn yn y cyhyrau a’r galon yn rasio. Mae adweithiau o’r fath yn normal ac nid ydynt yn adlewyrchu anallu i ymdopi. 

Gofalu Am Eich Anwylyd

Bydd y staff gofal critigol yn sicrhau bod eich anwylyd yn cael y gofal gorau ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am eu cyflwr. Maen nhw ar gael os ydych am siarad â nhw am ffyrdd y gallech chi helpu eich anwylyd, fel helpu i’w tacluso/helpu gyda gofal personol a gwneud eu hamgylchedd yn fwy cartrefol. Efallai y gofynnir i chi hefyd helpu’r staff gofal critigol i ddeall mwy am eich anwylyd e.e. hoff bethau, cas bethau, teulu a ffrindiau. 

Gofalu Amdanoch Eich Hun

Mae’n bwysig cofio gofalu amdanoch chi’ch hun. Efallai y byddwch am ystyried y canlynol… 

  • Siaradwch â ffrind neu berthynas am sut rydych chi’n teimlo a phwyso arnyn nhw am gefnogaeth ymarferol.   
  • Enwebwch un person fel pwynt cyswllt ar gyfer eich teulu er mwyn caniatáu diweddariadau rheolaidd.  
  • Rhowch amser i chi’ch hun i ffwrdd o’r ysbyty ar gyfer tawelwch a gorffwys.  
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cadw’ch lefelau egni i fyny trwy fwyta ac yfed yn rheolaidd, hyd yn oed pan nad ydych chi’n teimlo fel gwneud.  
  • Os ydych chi’n cael trafferth cysgu, ceisiwch ymlacio cyn mynd i’r gwely (e.e. drwy gael bath neu ddiod poeth). 
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn siarad â’r staff gofal critigol neu’ch meddyg teulu os ydych yn pryderu am eich lles eich hun.  

Gwasanaethau Cymorth

Efallai y gwelwch fod rhai anawsterau’n parhau hyd yn oed ar ôl i’ch anwylyd adael yr uned gofal critigol. Os felly, mae’n bwysig eich bod yn ceisio cymorth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â’ch tîm gofal critigol lleol neu feddygfa am fanylion gwasanaethau cymorth yn eich ardal, a allai gynnwys Grwpiau Cefnogi Cleifion a Theuluoedd, Cymorth i Ofalwyr neu Wasanaethau Profedigaeth. 

Am ragor o wybodaeth i blant a theuluoedd: 

  • I gael rhagor o wybodaeth i deuluoedd a phlant ag anwyliaid sydd yn yr uned gofal critigol neu sydd wedi bod yno, cliciwch ar y ddolen i weld rhai adnoddau ICU defnyddiol: Ar gyfer plant – ICUsteps 
  • Fel arall, siaradwch â’ch tîm gofal critigol lleol a allai eich cyfeirio at wybodaeth a chymorth lleol. 
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.