Gan fod y ddau safle yn ysbytai athrofaol, efallai y byddwch yn gweld Ffisiotherapydd dan hyfforddiant, wedi’i (g)oruchwylio’n ofalus gan Ffisiotherapydd cymwysedig.
Mae gennych hawl i ofyn i fyfyriwr beidio â bod yn rhan o’ch asesiad neu’ch triniaeth.
Bydd hyn yn amrywio, yn dibynnu ar natur eich problem a’r math o asesiad neu driniaeth a fydd yn cael ei gynnig i chi – dylech glywed gan yr adran cyn pen mis.
Cysylltwch â’r adran am fwy o wybodaeth.
Nid oes unrhyw ddynion yn gweithio yn y tîm Ffisiotherapi Iechyd Pelfis ar hyn o bryd, ond gallai hyn newid. Felly, os oes gennych chi deimladau cryf am hyn, siaradwch â’ch ffisiotherapydd.
Bydd hyn yn amrywio’n fawr gan ddibynnu ar natur eich problem, am ba hyd y bu gennych chi symptomau, sut rydych chi’n ymateb i’r driniaeth, eich nodau ac ati, a bydd yn cael ei benderfynu rhyngoch chi a’ch ffisiotherapydd.
Eto, mae hyn yn unigol iawn ac yn dibynnu ar natur eich problem.
Mae pob croeso i chi ddod â rhywun gyda chi i unrhyw un o’ch asesiadau neu’ch sesiynau triniaeth.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.