Mae’n gyffredin gweld hyn mewn babanod newydd-anedig, neu mae’n gallu cymryd hyd at 3 mis i ddatblygu.
Mae’n gallu cael ei achosi gan y cyhyr sternocleidomastoid yn tynhau; mae’n gwneud i’r ên droi a’r pen wyro tuag at y cyhyr sydd wedi byrhau
Mewn rhai babanod bydd chwydd cysylltiol dros y cyhyr a fydd yn lleihau’n raddol a/neu plagiocephaly, sef y pen yn gwastatáu. Does dim angen mewnbwn ffisiotherapi ar plagiocephaly ar ei ben ei hun.
Mae torticollis yn gallu bod yn fwy cyffredin ymhlith babanod o ganlyniad i’r canlynol:
Fydd gan y rhan fwyaf o fabanod ddim poen cysylltiedig â thorticollis ac fe all y cyflwr gael ei ddatrys drwy ddilyn cyngor ac ymarferion eich ffisiotherapydd. Yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd angen unrhyw fewnbwn pellach pan fydd y baban wedi tyfu’n hŷn. Mewn achosion prin, mae cyhyrau wedi tynhau yn gallu parhau ac efallai y bydd angen adolygiad orthopedig.
Caiff torticollis ei ddiagnosio trwy archwilio’r safle gorffwys a symudiad y gwddf.
Mae’r dolenni canlynol yn rhoi rhagor o wybodaeth ac arweiniad i chi cyn eich apwyntiad ffisiotherapi.
Bydd eich baban yn cael ei gyfeirio am apwyntiad ffisiotherapi er mwyn adolygu cynnydd y traed.
Mae’n ddigon arferol i achosion gael eu cyfeirio am sgan uwchsain ar y glun. Siaradwch â’ch ymwelydd iechyd os oes angen mwy o wybodaeth arnoch.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.