Rydyn ni’n Therapyddion Galwedigaethol sy’n gweithio gydag Oedolion sy’n byw yn rhanbarth Caerdydd a Bro Morgannwg sy’n profi amrywiaeth o anawsterau iechyd meddwl. Rydyn ni’n gweithio mewn gwahanol leoliadau gan gynnwys ysbytai, timau iechyd meddwl cymunedol a thimau arbenigol ar gyfer cleifion allanol.
Rydyn ni’n gweithio gyda chi i’ch helpu i wneud y pethau pob dydd rydych chi eu heisiau, eu hangen neu mae disgwyl i chi eu gwneud. Rydyn ni’n galw’r pethau bob dydd hyn yn “Galwedigaethau”. Mae galwedigaethau yn gallu bod yn bwysig iawn a helpu i lunio’r ffordd rydych chi eisiau byw.
Rydyn ni’n gweithio gyda chi i wella eich iechyd meddwl. Pan fyddwn ni’n cael trafferth gyda’n hiechyd meddwl gall hyn wneud galwedigaethau’n anodd.
Mae galwedigaethau yn gallu cael eu disgrifio fel a ganlyn:
Beth sydd angen i mi ei wneud
Mae Therapi Galwedigaethol yn gallu gwella eich iechyd meddwl a chorfforol drwy eich helpu i edrych ar yr hyn rydych chi’n ei wneud bob dydd a chanolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i chi. Mae Therapi Galwedigaethol yn gallu cynnig cymorth ym mhob rhan o’ch bywyd, eich helpu i osod nodau realistig a gweithio tuag at gyrraedd y rhain.
Mae Therapi Galwedigaethol yn gallu gwella eich iechyd meddwl a chorfforol drwy eich helpu i edrych ar yr hyn rydych chi’n ei wneud bob dydd a chanolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i chi. Mae Therapi Galwedigaethol yn gallu cynnig cymorth ym mhob rhan o’ch bywyd, eich helpu i osod nodau realistig a gweithio tuag at gyrraedd y rhain.
Mae gwneud newidiadau i rai meysydd yn eich bywyd yn gallu helpu i wella eich iechyd meddwl a chorfforol. Cliciwch ar y dolenni isod i ddod o hyd i strategaethau i’ch helpu i wneud y newidiadau hynny.
Atgyfeiriadau
Os ydych chi’n teimlo y byddech chi neu eich anwyliaid yn elwa o fewnbwn Therapi Galwedigaethol, siaradwch â’ch tîm clinigol neu eich meddyg teulu.
Mae ein holl Therapyddion Galwedigaethol wedi’u cofrestru’n broffesiynol gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC). Mae’r sefydliad hwn yn cadw cofrestr o Weithwyr Iechyd a Gofal Proffesiynol gan gynnwys Therapyddion Galwedigaethol sy’n bodloni’r safonau angenrheidiol ar gyfer eu hyfforddiant, eu sgiliau proffesiynol, eu hymddygiad a’u hiechyd. Gwiriwch y Gofrestr a dod o hyd i weithiwr iechyd a gofal proffesiynol cofrestredig.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.