Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Gofal Critigol

Uned Gofal Critigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw’r fwyaf yng Nghymru ac mae’n derbyn cleifion o bob prif arbenigedd gan gynnwys meddygaeth gyffredinol, llawfeddygol, trawma mawr, gofal niwrogritigol ac anafiadau i fadruddyn y cefn.

Mae’r therapydd galwedigaethol yn cefnogi adferiad cleifion gofal critigol cymhleth er mwyn helpu i leihau effaith a chanlyniadau hirdymor goroesi salwch critigol.

Dyma rai o’r ffyrdd y gall Therapi Galwedigaethol helpu yn dilyn salwch critigol:

  • Cefnogi annibyniaeth drwy adsefydlu’r sgiliau sydd eu hangen i berfformio gweithgareddau dyddiol fel ymolchi, gwisgo a bwyta
  • Helpu i oresgyn, neu addasu i unrhyw newidiadau corfforol neu wybyddol sy’n deillio o’r salwch neu’r anaf
  • Atal deliriwm a gofalu am y rhai sy’n ei brofi
  • Defnyddio sblintiau i alluogi defnydd swyddogaethol o aelodau a lleihau tôn cyhyrau
  • Darparu offer a chyngor gan gynnwys cadeiriau olwyn/seddi a thechnoleg gynorthwyol
  • Cefnogi cynllunio rhyddhau a chwblhau asesiadau risg i gynnal diogelwch ac, os oes angen argymell cymhorthion amgylcheddol neu addasiadau fel bod modd rhyddhau’r claf adref yn ddiogel

Atgyfeiriadau

  • Mae staff ar y wardiau yn gallu cyfeirio’n ôl y gofyn.
Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content