Therapi Galwedigaethol mewn Llawfeddygaeth Fasgwlaidd
Mae’r Uned Fasgwlaidd yn gofalu am bobl sydd â chyflyrau sy’n effeithio ar y pibellau gwaed, neu’r cylchrediad.

Ward B2 yn Ysbyty Athrofaol Cymru yw’r brif ward lawfeddygol fasgwlaidd. Mae llawdriniaeth yn cynnwys gweithdrefnau i gynnal cylchrediad gwaed iach, yn ogystal â thorri aelod o’r corff – un o’r coesau fel arfer.
Mae cleifion yn cael eu cyfeirio at yr uned fasgwlar drwy unedau damweiniau ac achosion brys, atgyfeiriadau gan feddygon teulu neu arbenigedd arall o fewn yr ysbyty. Os oes un o aelodau isaf y corff (coesau) wedi cael ei dorri, byddwch yn cael eich cyfeirio’n awtomatig at y tîm Therapi Galwedigaethol. Bydd mathau eraill o lawdriniaeth a chyflyrau yn cael eu cyfeirio at y tîm Therapi Galwedigaethol os oes angen.
Mae’r Therapydd Galwedigaethol yn gallu asesu eich gweithgareddau bob dydd, fel ymolchi a gwisgo a pharatoi bwyd. Byddwn ni’n holi pa fath o gefnogaeth rydych chi’n ei chael gan deulu a ffrindiau hefyd.
Nod hyn yw gweld a oes angen cymorth arnoch pan ydych chi’n mynd adref. Efallai y byddwn ni’n ymarfer gweithgareddau gyda chi tra byddwch chi yma, ac os oes angen byddwn ni’n trefnu i chi gael cymorth pan fyddwch chi’n mynd adref. Gall hyn fod yn offer i wneud pethau’n haws neu atgyfeiriad at y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer anghenion gofal. Efallai byddwn ni’n asesu eich cartref i weld a yw’n addas hefyd. Er enghraifft, os ydych chi bellach yn defnyddio cadair olwyn, byddwn ni’n edrych i weld a oes digon o le iddi. Yna byddwn ni’n eich atgyfeirio at y Gwasanaethau Cymdeithasol, a fydd yn gwneud eu hasesiad eu hunain ac yn ymgymryd ag unrhyw addasiadau sydd eu hangen. Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn eich asesu ar ôl i chi gael eich rhyddhau o’r ysbyty.
Os oes un o aelodau isaf y corff (coesau) wedi cael ei dorri, byddwn ni’n darparu cadair olwyn i chi.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol eraill yn ystod eich arhosiad yn yr ysbyty. Mae’r rhain yn cynnwys ffisiotherapyddion, deietegwyr ac os oes angen, seicolegwyr. Os oes un o aelodau isaf y corff (coesau) wedi cael ei dorri, efallai y bydd rhywun o’r Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar yn eich gweld hefyd, er mwyn trafod cael aelod newydd (prosthesis).