Deiet a Sglerosis Ymledol

I’r rhan fwyaf o bobl sydd â Sglerosis Ymledol (MS), mae’r deiet gorau yn un iach ac amrywiol.

Y pwyntiau allweddol yw:

  • Gallai deiet cytbwys a phwysau iach eich helpu i reoli eich MS.
  • Anelwch am ddeiet cytbwys fel eich bod yn cael digon o’r prif faetholion: carbohydradau, brasterau, proteinau, fitaminau a mwynau.
  • Nid oes ‘deiet MS’ sydd wedi’i brofi i helpu i drin sglerosis ymledol. Mae dietau arbennig/amgen fel The Swank, McDougall, Paleo neu Best Bet yn gwahardd rhai bwydydd, felly os ydych yn rhoi cynnig arnyn nhw, byddwch yn ofalus i beidio â cholli maetholion hanfodol.
  • Gwnewch gynllun ar gyfer eich deiet sy’n helpu eich anghenion personol eich hun – i helpu gyda blinder, y bledren neu’r coluddyn, anawsterau llyncu neu gadw pwysau iach.
  • Os oes angen help arnoch gyda phrydau bwyd – gyda chynllunio, siopa, paratoi neu glirio – gofynnwch i’ch Meddyg Teulu neu’ch nyrs MS am asesiad therapydd galwedigaethol ac atgyfeiriad at ddeietegydd. Gallan nhw helpu i sicrhau y gallwch gael deiet da, a’ch helpu i fwyta’n iach o fewn eich cyllideb.

Mae gan y fideo hwn wybodaeth ddefnyddiol am fwyta deiet cytbwys: 

Os hoffech gael rhagor o gymorth gyda’ch deiet, neu os hoffech gael help i reoli eich pwysau (naill ai os ydych dan bwysau neu dros bwysau), yna gofynnwch i’ch Meddyg Teulu neu’ch tîm MS eich cyfeirio at ddeietegydd am gyngor unigol.

Keeping Me Well logo

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content