Gwasanaeth Niwro Cymunedol Byw'n Dda

Gwasanaeth Adsefydlu Niwrolegol Cymunedol gynt

Ein nod i rymuso pobl â chyflyrau niwrolegol i fyw’n dda – yn gorfforol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol.

Rydym yn darparu cymorth rhithwir ac wyneb yn wyneb trwy sesiynau unigol ac mewn grwpiau.

Mae’r grwpiau’n cynnwys:                                                                                             

  • Dosbarth Cryfder a Chydbwysedd
  • Grow Getters, sesiynau yn yr awyr agored sy’n canolbwyntio a weithrediad
  • Cyflwyniad i feicio addasol Pedal Power
  • Dosbarth Tai Chi rhithwir
  • Dosbarth ymarfer corff rhithwir ar eich eistedd
  • Cyflwyniad i Gerdded Nordig
  • Rhaglen Rheoli Blinder
  • Rhaglen Rheoli Emosiynau
  • Clefyd Parkinson cynnar: rhaglen codi llais, symud mwy
  • Grwpiau Cyfathrebu
  • Côr sy’n Gyfeillgar i Affasia
  • Grŵp Darllen ac Ysgrifennu
  • Cymorth gan Gymheiriaid

Mae sesiynau unigol yn cynnwys:

  • Ffisiotherapi
  • Therapi Galwedigaethol
  • Sesiwn cyflwyniad i’r Active Passive Trainer
  • Sesiwn cyflwyniad i’r gampfa

Os hoffech ddysgu mwy am eich cyflwr a’r gwasanaethau sydd gennym yn BIPCAF, cliciwch isod:

Mae strôc yn gyflwr meddygol difrifol sy’n peryglu bywyd. Mae’n digwydd pan mae’r cyflenwad gwaed i ran o’r ymennydd yn cael ei darfu. DARLLEN MWY

Mae’r dudalen hon yn cynnwys o fideos a dolenni isod gyda gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer pobl sy’n gwella o anaf i’r ymennydd, cyflyrau niwrolegol neu niwrolawdriniaeth neu sydd wedi cael eu heffeithio gan y rhain. DARLLEN MWY

Mae MS yn fath o gyflwr awto-imíwn llidiol niwrolegol, sy’n golygu ei fod yn effeithio ar yr ymennydd a llinyn y cefn. DARLLEN MWY

Mae Clefyd Parkinson yn gyflwr niwrolegol cynyddol. DARLLEN MWY

Madruddyn y cefn sy’n gyfrifol am gyfathrebu negeseuon dwy ffordd o’ch ymennydd i’ch organau, eich cyhyrau a’ch croen.

Amcangyfrifir bod tua 2,500 o bobl yn y DU yn anafu madruddyn y cefn bob blwyddyn. DARLLEN MWY

Mae anhwylder niwrolegol swyddogaethol yn gyflwr sy’n effeithio ar y system nerfol trwy ymyrryd â’r ffordd mae’r ymennydd a’r corff yn rhyngweithio. DARLLEN MWY

Rydym yn dîm Ffisiotherapi sy’n benodol ar gyfer rheoli a thrin cleifion sy’n oedolion sydd â chyflyrau niwrogyhyrol. DARLLEN MWY

Gall cwympo gael effaith fawr ar fywydau unigolion, yn gorfforol ac yn feddyliol. Gall arwain at deimlo’n unig ac ynysig, ac at roi’r gorau i wneud y pethau roeddech chi’n arfer eu mwynhau. DARLLEN MWY

Cysylltwch â Ni:

Oes gennych chi gwestiynau neu hoffech chi ddysgu mwy? Cysylltwch â ni:

Tel: 02921 836259

Email: cardiffandvale.cnrs@wales.nhs.uk

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.