Cadw Fi'n Iach - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Helpu eich hun

Adnoddau cyffredinol ydy’r rhain, heb eu teilwra i anghenion unigolyn, felly rydym yn argymell eich bod yn gwneud y canlynol bob tro cyn defnyddior adnoddau hyn. 

  • Gwyliwch neu ddarllenwch yr adnodd yn llawn bob amser cyn ei ddefnyddio. Dylech chi bwyso a mesur – ai dyma’r adnodd gorau i chi? A ydych chi’n hyderus y byddwch chi’n gallu gwneud yr ymarferion? Os mai ‘na’ yw’r ateb, yna dylech chi roi cynnig ar rywbeth rydych chi’n teimlo’n hyderus ag ef.  
  • Os ydych chi’n dilyn dosbarth am y tro cyntaf, rydym yn argymell gweithio’n raddol tuag at y dosbarth llawn. Dylech chi stopio’r fideo a gorffwys os oes angen.   
  • Gwnewch yn siwr nad oes rhwystrau o’ch cwmpas a bod gennych chi ddigon o le i wneud ymarfer corff yn ddiogel.   
  • Gosodwch arwyneb cadarn i gael gwell cynhaliaeth i’r corff os byddwch angen un. Mae’n bwysig gwisgo esgidiau cyfforddus a chadarn bob amser wrth ymarfer.   
  • Os byddwch chi wedi gwneud mwy o ymarfer corff nag arfer, mae teimlo’r cyhyrau wedi cyffio y diwrnod wedyn yn gyffredin. Bydd hyn yn lleihau wrth i chi ymarfer mwy. Fodd bynnag, os byddwch chi mewn poen, neu’n dioddef pendro neu ddiffyg anadl difrifol wrth wneud ymarfer corff, dylech chi roi’r gorau iddi yn syth.  
  • Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae llawer o bobl yn cael eu digalonni gan y syniad o wneud ymarfer corff traddodiadol. Os mai felly yr ydych chi’n teimlo, dechreuwch trwy feddwl pa weithgareddau rydych chi’n eu mwynhau a sut y gallwch chi gynnwys mwy o symud yn eich trefn ddyddiol. Mae pob symudiad yn cyfrif.
  • Cael hwyl wrth symud
  • Symud mwy mewn bywyd bob dydd
  • Bod yn actif gydag anabledd

Mae llawer o fideos ar gael ar-lein. Maer holl fideos hyn wediu cynllunio ar gyfer pobl â chyflyrau Niwrolegol. 

Fideos Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro  

Sesiynau ar eich eistedd 

Sesiynau dwysedd cymedrol 

Sesiynau Dwysedd Uchel 

Sesiynau ymestyn 

Fideos gan elusennau 

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content