Traed Clwb Lleoliadol (Positional Talipes Equinovarus)

Mae Traed Clwb Lleoliadol yn disgrifio lleoliad troed neu draed baban newydd-anedig sy’n troi tuag at i mewn ac i lawr.

Babi gyda thraed yn cyfeirio tuag at i mewn / Newborn baby's foot turning inwards and downwards

Mae’n gyflwr sy’n bodoli ar adeg geni a chredir ei fod yn digwydd oherwydd lleoliad traed y baban yn y groth. Yn gyffredinol, bydd lleoliad y traed yn gwella gydag amser. Mae’r traed yn normal, does dim anffurfiadau esgyrn na meinwe meddal. Fydd hyn ddim yn achosi unrhyw broblemau cerdded yn y dyfodol

* Mae’r enw yn swnio’n gymhleth ond ystyr ‘Lleoliadol’ yw ei fod yn gysylltiedig â’r ffordd y mae’r baban wedi bod yn gorffwys yn y groth. Mae ‘Talipes’ yn cyfeirio at y traed a’r pigwrn. Ystyr Equino yw bod y droed yn cyfeirio tuag at i lawr ac ystyr Varus yw bod asgwrn y sawdl yn cyfeirio tuag at i mewn.

Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y wybodaeth hon, cysylltwch ag Adran Cleifion Allanol Dolffin ar 02921 847577.

Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4XW

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.