Cinio Nadolig Iach

Mae Dydd Nadolig yn ymwneud â’r teulu a mwynhau hwyl yr ŵyl – ac yn amlach na pheidio, llawer o fwyta ac yfed!

Os hoffech chi wneud eich cinio Nadolig ychydig yn iachach, beth am roi cynnig ar y rysáit hawdd hon

Bwydo: 6

Cyfanswm yr Amser: 2 awr

Cynhwysion:

  • 1 cyw iâr neu dwrci cyfan 2kg
  • 1.2kg o datws canolig, wedi’u pilio a’u chwarteru
  • 2 llwy fwrdd o olew llysiau
  • 4 moron, wedi’u sleisio yn julienne
  • 4 panasen, wedi’u sleisio yn julienne
  • 1/2 bresych coch, wedi’i sleisio
  • 150g o bys wedi’u rhewi
  • Gronynnau grefi â llai o halen
  • 6 llwy fwrdd o saws llugaeron (dewisol)

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 190°C (ffan 170°C, marc nwy 5).
  2. Rhowch y cyw iâr neu’r twrci ar dun rhostio mawr a’i rostio yng nghanol y ffwrn am 90 munud. Ar gyfer cinio llysieuol neu fegan, gallwch gyfnewid hwn am eich hoff opsiwn heb gig (coginiwch ef gan ddilyn cyfarwyddiadau’r pecyn).
  3. Rhowch y tatws mewn tun rhostio ar wahân ac ychwanegwch 1 llwy fwrdd o olew. Sicrhewch eu bod wedi’u gorchuddio ag olew, yna eu rhostio ar y silff uwchben y twrci yn y ffwrn am 60 munud, gan eu troi ar ôl 30 munud.
  4. Rhowch y moron a’r pannas mewn powlen ac ychwanegwch 1 llwy fwrdd o olew. Sicrhewch eu bod wedi’u gorchuddio ag olew.
  5. Ar ôl i’r tatws fod yn y ffwrn am 20 munud, ychwanegwch y moron a’r pannas i’r un tun rhostio â’r tatws. Rhowch y tun nôl yn y ffwrn i goginio am 40 munud.
  6. Coginiwch y bresych a’r pys gyda’i gilydd mewn sosban â chaead gydag ychydig bach o ddŵr berwedig am 5 i 8 munud. Fel arall, gallwch goginio’r pys a’r bresych yn y ficro-don.
  7. Gwnewch yn siŵr bod y cyw iâr/twrci wedi’i goginio’n llwyr drwy roi twll yn y rhan fwyaf trwchus o’r goes gyda chyllell finiog neu sgiwer – dylai’r sudd fod yn glir os yw’n barod. Trosglwyddwch ef i fwrdd torri neu blât a’i orchuddio â ffoil, gan ganiatáu iddo orffwys am 10 munud cyn torri.
  8. Tra bod y cyw iâr/twrci yn gorffwys, gwnewch y grefi gan ddilyn cyfarwyddiadau’r pecyn.
  9. Gweinwch 150g o gyw iâr/twrci fesul person, heb y croen. Gweinwch gyda’r tatws rhost, llysiau, grefi a llwy fwrdd o saws llugaeron fesul person (dewisol).

Hefyd yn yr adran hon

Keeping Me Well - Cardiff and Vale University Hospital

Help us improve Keeping Me Well!

We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.

Skip to content