Opsiwn triniaeth yw sbica clun ar gyfer materion datblygu, ôl-lawdriniaeth ac yn dilyn toresgyrn gan gynnwys y ffemwr (asgwrn y glun).
Mae’n gast hir sy’n cadw cluniau’r plentyn mewn safle allsymud (yn pwyntio oddi wrth linell ganol y corff). Mae’n dechrau ar y bongorff ac yn ymestyn i lawr y ddwy goes fel arfer.
Bydd eich clinigwr yn egluro pa mor hir y bydd angen iddo fod yn ei le pan fydd yn cael ei osod.
Dyma rai pethau i’w gwneud a phethau i’w hosgoi wrth ofalu am eich cast plaster.
Os yw eich plentyn yn gloff ac yn datblygu unrhyw un o’r symptomau canlynol, dylech chi ffonio 111 ar frys a bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn penderfynu a oes angen gofal brys ar eich plentyn.

Ar ôl sawl wythnos/mis mewn cast sbica clun, bydd cymal eich plentyn yn eithaf anystwyth ac efallai na fydd yn fodlon ei symud.
Mae hyn yn gwbl arferol a bydd yn gwella dros amser. Anogwch eich plentyn i symud ei goesau gymaint â phosibl gan roi llawer o anogaeth a chysur. Mae’n allweddol rhoi digon o amser i’ch plentyn.
Bydd bath cynnes yn helpu gyda’r anghysur ac yn annog eich plentyn i ddechrau symud ei goesau eto. Rhowch gynnig ar rai o’r symudiadau ysgafn canlynol gyda’ch plentyn er mwyn ei helpu i symud ei goesau.
Bydd eich plentyn yn dechrau adennill ei ystod o symudiadau yn araf dros amser. Peidiwch â gorfodi unrhyw symudiadau y mae’r plentyn yn anhapus â nhw.
Ar ôl tynnu’r cast, efallai y byddwch yn gweld bod eich plentyn yn dychwelyd yn ôl i gerrig milltir datblygiadol blaenorol, e.e. cropian neu lusgo ar ei ben-ôl. Mae hyn hefyd yn gwbl arferol. Bydd yn dechrau tynnu ei hun i fyny drwy ddefnyddio’r dodrefn yn ei amser ei hun ac yn parhau i ddatblygu symudedd.
Efallai y bydd plant hŷn a oedd yn cerdded cyn iddyn nhw gael y cast sbica yn cerdded i ddechrau gydag ystum lletach neu’n hercian. Bydd hyn hefyd yn gwella drwy wneud gweithgareddau arferol a llawer o chwarae mewn safleoedd gwahanol.

Y ffordd orau o annog amrywiaeth o symudiadau, cynnal pwysau, sefyll a cherdded yw trwy chwarae. Mae chwarae yn ffordd wych o dynnu sylw gan wneud y gweithgareddau hyn yn hwyl, yn bleserus ac yn llai brawychus.
Yn ogystal ag annog amrywiaeth o symudiadau ysgafn yn y cymalau, gallwch chi helpu eich plentyn i ddod i arfer â rhoi rhywfaint o bwysau ar eu coesau unwaith eto. Ar ôl bod mewn cast am gyfnod hir, mae’n aml yn deimlad rhyfedd a brawychus i’r plentyn.
Gallwch chi annog eich plentyn i roi eu pwysau ar y coesau drwy eistedd ar y llawr gyda’ch plentyn ar eich côl neu ar fainc fach. Anogwch y plentyn i osod y ddwy droed yn wastad ar y llawr ac ymestyn dros ei goesau am y teganau gan y bydd hyn yn ei helpu i ddechrau cynnal pwysau ar ei goesau.
Gallwch chi ddefnyddio rhywfaint o chwarae synhwyraidd hefyd gyda hambwrdd dŵr neu ewyn wrth ei draed er mwyn sblasio.
Unwaith y bydd eich plentyn yn dangos arwyddion o fod eisiau codi i sefyll, gallwch chi ddechrau ei annog i eistedd ac yna sefyll, chwarae wrth sefyll, mynd o ochr i ochr (er enghraifft ar hyd y soffa) a cherdded â chymorth wrth chwarae. Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn arwain y gweithgareddau hyn.
Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau am y wybodaeth hon, cysylltwch ag Adran Cleifion Allanol Dolffin ar 02921 847577.
Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru
Parc y Mynydd Bychan
Caerdydd
CF14 4X
Os nad oes gan eich plentyn apwyntiad wedi’i drefnu gyda’r adran ffisiotherapi a bod y symptomau’n parhau, neu os nad ydynt yn gwella’n raddol, yna gallwch hunan-atgyfeirio eich plentyn i’r Adran Cleifion Allanol Ffisiotherapi Pediatrig trwy ffonio’r llinell atgyfeirio ar 02921 836908.
We’re currently working to improve the Keeping Me Well website. If you’d like to help us make this site a better, more helpful experience for you, please take a few minutes to let us know what improvements you’d like to see.